Showing 53 results

Archival description
Moelona Manuscripts,
Print preview View:

'Composition Book' Lizzie Mary Owen, Ysgol Fwrdd Rhydlewis, 1894-1903, gan gynnwys 'The Public Duties of Women' a 'What is a ...,

'Composition Book' Lizzie Mary Owen, Ysgol Fwrdd Rhydlewis, 1894-1903, gan gynnwys 'The Public Duties of Women' a 'What is a Great Man?', 1896, a lluniau mewnosodedig o Moelona a'i gr. Ceir cerddi teuluol, 1890-1903, rhai coffa gan mwyaf yng nghefn y llyfr gan gynnwys 'Myfyrdod ar Lan Bedd fy Mam, Awst 1894'; 'Penillion gyfansoddwyd i Kate fy chwaer ar ei hymadawiad i Lundain, Gorph. 2il 1896'; 'Canig Ffarwel. Cyfansoddwyd ar fy ymadawiad o Dowlais Hydref 1896'; ac 'Er Cof am Kate J. Owen. Bu farw Ion 14eg '97 yn 19 oed'.

D. J. Williams, Rhydychen,

Wedi cael blas mawr ar ei nofel Bugail y Bryn ac yn trafod ei chymeriadau, 'mae "psychology" cymeriad y 'Bugail' ... yn gampwaith o ran celfyddyd a gwirionedd'. Eisiau anfon dau gopi o'r nofel dramor i ddau ffrind iddo. Wedi darllen colofn ei gwr y Parch. Tywi Jones, 'Dic Siôn Dafydd', ers blynyddoedd.

Eluned Morgan, Y Gaiman,

Yr haf wedi bod yn boeth iawn. 'Mae'r Wladfa'n llwyddo'n fasnachol ac amaethyddol, ond yn dirywio yn ei phethau goreu'. Yn gofyn iddi a ydyw hi'n perthyn i Ford Gron Ceridwen, 'dyma gyfle i hogi eich arfau a dangos eich dawn'.

Results 1 to 20 of 53