Showing 2016 results

Archival description
Only top-level descriptions Fonds
Print preview View:

Papurau Alun Eirug Davies

  • GB 0210 ALEIRUG
  • Fonds
  • [1908]-[2017]

Papurau llenyddol ac academaidd Alun Eirug Davies, ynghyd â phapurau ei dad T. Eirug Davies, [1908]-[2017], sy'n cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron, barddoniaeth, pregethau a phapurau eraill. = Literary and academic papers of Alun Eirug Davies, together with the papers of his father T. Eirug Davies, [1908]-[2017], comprising correspondence, diaries, poetry, sermons and other papers.

Davies, Alun Eirug, 1932-

Papurau J. Tysul Jones

  • GB 0210 TYSNES
  • Fonds
  • 1888-1985 (crynhowyd [1924]-1985)

Llawysgrifau a phapurau eraill a grynhowyd ac a gasglwyd gan J. Tysul Jones, yn cynnwys llythyrau,1924-1985; papurau ymchwil ar gyfer astudiaeth destunol a gramadegol o Hystoria Lucidar, ynghyd â geirfa lawn, ar gyfer ei draethawd MA, 1958; deunydd yn ymwneud â hanes Llandysul a'r cylch, 1888-[1985]; llawysgrifau o ddeunydd a ysgrifennwyd neu a gyfieithwyd ganddo,1936-1970; torion papur ynglŷn â J. Tysul Jones ac eraill,1912-1971; nodiadau a deunydd arall, 1926-1970, ynglŷn ag Idwal Jones, Waldo Williams, Ifan Jones, ac unigolion o ardal Llandysul; llawysgrif gan neu'n ymwneud â Sarnicol,1889-[1975], yn cynnwys cerddi yn ei law, [1944], copi yn ei law o'i gyfrol Storiau ar Gân (Dinbych, 1936), 1936-1938, adysgrifau a thorion papur newydd o'i waith, 1907-[1975], llythyrau at J. Tysul Jones ynghylch Sarnicol,1947-1973, cyfieithiadau llawysgrif o waith Sarnicol,[1935], a nodiadau ar Sarnicol gan J. Tysul Jones, [1972]. = Manuscripts and other papers accumulated and collected by J. Tysul Jones, including letters, 1924-1985; research papers for a textual and grammatical study of Hystoria Lucidar, with a full vocabulary, for his MA thesis, 1958; material relating to the history of the Llandysul area, 1888-[1985]; manuscripts of works written or translated by him, 1936-1970; newspaper cuttings relating to J. Tysul Jones and others, 1912-1971; notes and other material, 1926-1970, relating to Idwal Jones, Waldo Williams, Ifan Jones, and individuals from the Llandysul area; manuscripts of and relating to Sarnicol, 1889-[1975], including autograph poems, [1944], an annotated copy of his Storiau ar Gân (Denbigh, 1936), 1936-1938, transcripts and newspaper cuttings of his works, 1907-[1975], letters to J. Tysul Jones concerning Sarnicol, 1947-1973, manuscript translations of Sarnicol's work, [1935], and notes on Sarnicol by J. Tysul Jones, [1972].

Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986.

Papurau Ambrose Bebb

  • GB 0210 AMBEBB
  • Fonds
  • 1887-1955 (yn bennaf 1919-1955) (crynhowyd [1920au]-1958)

Mae'r fonds yn cynnwys gohebiaeth, 1898-1958, dyddiaduron, 1918-1954, llawysgrifau a theipysgrifau llawer o'i gyhoeddiadau llenyddol, hanesyddol, crefyddol a hunangofiannol, 1934-1955, copi o'i draethawd MA, 1920, ynghyd â nifer bychan o ddarlithoedd a phapurau amrywiol, 1937-1949. Mae rhai o'r llythyrau at Bebb, ynghyd â rhai o'i ddyddiaduron, yn taflu goleuni gwerthfawr ar gyflwr a hanes Llydaw cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac i raddau llai, ar hanes cynnar Plaid Cymru.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Papurau Dewi Emrys

  • GB 0210 DEWRYS
  • Fonds
  • 1936-1960

Papurau Dewi Emrys, 1936-1960, yn cynnwys ei gerddi cyhoeddedig a rhai nas cyhoeddwyd; cerddi a gyflwynwyd ar gyfer cystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau eraill; torion o gerddi a luniwyd ar achlysur ei farwolaeth yn 1952; darlithoedd ac anerchiadau; llythyrau yn ymwneud â thysteb iddo; a rhestr o'i lawysgrifau. = Papers of Dewi Emrys, 1936-1960, including his published and unpublished poems; poems entered in National and other eisteddfodau; cuttings of poems written on his death in 1952; lectures and addresses; letters relating to his testimonial; and a list of his manuscripts.

Emrys, Dewi, 1881-1952

Papurau Elfyn Jenkins

  • GB 0210 ELFINS
  • Fonds
  • 1950-1955

Papurau ymchwil Elfyn Jenkins, 1950-1955, yn ymwneud â thafodiaith Llŷn, sir Gaernarfon, a fwriadwyd ar gyfer gradd MA, gan gynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'r traethawd anorffenedig = Research papers, 1950-1955, of Elfyn Jenkins relating to the dialect of Llŷn, Caernarfonshire, intended for an MA degree, including manuscript and typescript drafts of the unfinished thesis.

Jenkins, Elfyn.

Papurau Mihangel Morgan

  • GB 0210 MIHMOR
  • Fonds
  • 1978-[2014]

Papurau Mihangel Morgan, 1978-[2014], yn cynnwys gohebiaeth a drafftiau o'i weithiau llenyddol. = Papers of Mihangel Morgan, 1978-[2014], comprising correspondence and drafts of his literary works.

Morgan, Mihangel

Llawysgrifau Daniel Owen

  • GB 0210 MSDANIOW
  • Fonds
  • [1885]-[1895]

Llawysgrifau Daniel Owen, [1885]-[1895], yn cynnwys drafftiau o'r rhan fwyaf o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891), a rhannau o'r cyfrolau Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), Gwen Tomos (Wrecsam, 1894) a Straeon y Pentan (Wrecsam, 1895). = Manuscripts of Daniel Owen, [1885]-[1895], including drafts of most of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891), along with parts of the volumes Y Siswrn (Mold, 1886), Gwen Tomos (Wrexham, 1894) and Straeon y Pentan (Wrexham, 1895).

Owen, Daniel, 1836-1895.

Papurau Mudiad a Chwmni Adfer

  • GB 0210 ADFER
  • Fonds
  • 1971-2012

Papurau Mudiad a Chwmni Adfer, 1971-2012, yn ymwneud â gweinyddu'r cwmni, gosod tai, ymgyrchoedd y mudiad, ynghyd â gohebiaeth a phapurau ariannol.

Adfer.

Papurau Wil Ifan,

  • GB 0210 WILFAN
  • Fonds
  • 1896-1966, 2019

Papurau Wil Ifan, 1896-1982, yn cynnwys llythyrau ato, 1902-1966, ac oddi wrtho at ei deulu, 1915-1966; gweithiau cyhoeddedig a barddoniaeth a rhyddiaith, yn Saesneg yn bennaf, yn cynnwys nodiadau, [1920]-1956; pregethau, 1921-1933; dyddiaduron, 1900-1947; sgriptiau radio, 1952-1963; a chopïau o Celt a olygwyd gan Dan Evans, 1896-1897. = Papers of Wil Ifan, 1896-1982, including letters to him, 1902-1966, and from him to his family, 1915-1966; published works and poetry and prose, mainly in English, including notes, [1920]-1956; sermons, 1921-1933; diaries, 1900-1947; radio scripts, 1952-1963; and copies of Celt, edited by Dan Evans, 1896-1897.

Hefyd yn cynnwys astudiaeth Shirley Wynne Vinall, 2019, wedi ei argraffu a’i rwymo yn ddwy gyfrol, o 'Llyfr yr Achau' gan 'Wil Ifan', yn cynnwys detholiadau o lyfr nodiadau ei thaid ar hanes ei deulu, gwybodaeth am deuluoedd ei fam a’i dad yn Sir Gaerfyrddin, Cwmafan a Sir Aberteifi, a theulu ei wraig Nesta Wyn Edwards, Dolgellau, ynghyd â phennod ychwanegol gan y rhoddwr ar ei yrfa a’i ysgrifau. Ceir hefyd gopi llawysgrif o’r emyn "O Jesu, King most wonderful", a gyfieithwyd gan y Parch. E. Caswall, gyda cherddoriaeth gan B[ertram] J. Orsman, 1946, wedi’i lofnodi a’i gyflwyno gan y cyfansoddwr i’r Parch. W. Evans ('Wil Ifan'). = Also includes a study by Shirley Wynne Vinall, 2019, printed and bound in two volumes, of 'Llyfr yr Achau' by 'Wil Ifan', including extracts from her grandfather’s notebook on his family history, and containing information about his maternal and paternal families in Carmarthenshire, Cwmavon and Cardiganshire, and the family of his wife Nesta Wyn Edwards, Dolgellau, together with an additional chapter by the donor on his career and writings. Also included is a manuscript copy of the hymn "O Jesu, King most wonderful", translated by Rev. E. Caswall, with music by B[ertram] J. Orsman, 1946, signed and presented by the composer to the Rev. W. Evans ('Wil Ifan').

Papurau a roddwyd Hydref 2022: gweler y disgrifiad dan y Gyfres ychwanegol.

Wil Ifan, 1883-1968.

Papurau E. Tegla Davies

  • GB 0210 ETEGLIES
  • Fonds
  • 1879-1970

Papurau llenyddol a phersonol E. Tegla Davies, 1879-1970, yn cynnwys ei ddyddiaduron, gohebiaeth, pregethau, ysgrifau, adolygiadau o’i weithiau ac adolygiadau ganddo, ynghyd â ffotograffau teuluol. = Literary and personal papers of E. Tegla Davies, 1879-1970, comprising his diaries, correspondence, sermons, essays, reviews of his publications and reviews by him, together with family photographs.

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967

Archif Argraffu Huw Ceiriog Jones

  • GB 0210 ARGRAFFUCEIRIOG
  • Fonds
  • 1969-2023

Rhodd Mawrth 2008:
Un ffeil ar ddeg yn cynnwys cynnyrch gweisg y rhoddwr o 1969 ymlaen, sef Gwasg Llety Gwyn, Gwasg yr Arad Goch, Gwasg y Wern a'r un bresennol, Gwasg Nant y Mynydd.

Rhodd Rhagfyr 2015:
Deunydd a argraffwyd gan y rhoddwr ar Wasg Nant y Mynydd, 2015.

Rhodd Gorffennaf 2016:
Tair eitem ychwanegol Gwasg Nant y Mynydd, 2015, sef cerdyn, gwahoddiad a cherdd.

Rhodd Medi 2016:
Pum llythyr, 1970-1974, yn ymwneud â Gwasg Llety Gwyn a Gwasg yr Arad Goch, oddi wrth Aneirin Talfan Davies (2), T. H. Parry-Williams (2) ac R. Bryn Williams.

Rhodd Mawrth 2018:
Llyfryn Canu Penillion - Penillion Singing from The Misfortunes of Elphin by Thomas Love Peacock, a gyflwynwyd i Lionel Madden ar ddiwedd ei gyfnod fel Cadeirydd Grŵp Llyfryddol Aberystwyth, Mawrth 2018; ynghyd â manion a argraffwyd gan y rhoddwr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rhodd Chwefror 2022:
Amlen yn cynnwys copi o Hen Deip, sef rhestr o gynnyrch Gweisg Llety Gwyn, Yr Arad Goch, Y Wern a Nant y Mynydd (2021), 'Trwy wyll y Clo' gan Annes Glynn (2020), a dau gerdyn Nadolig.

Rhodd Hydref 2023:
Ychwanegiad i gasgliad Gwasg Nant y Mynydd, 2022-23, sef amlen yn cynnwys cerdyn Nadolig, pennill 'Mi ddymunwn' [gan Huw Morys], ac 'Awdl y gath' gan Robin Clidro, ynghyd â cherdd 'I'r Pedwar' gan Vernon Jones, yn gyflwynedig i'r Parchedigion Elwyn Pryse, John Tudno Williams, R. Watcyn James ac Wyn Rhys Morris.

Rhodd Ebrill 2024:
Papurau, 1979-80, yn ymwneud â chynhyrchu'r gyfrol Y Gwir Degwch gan Iolo Morganwg (Gwasg y Wern, 1980); ynghyd â dwy eitem a argraffwyd ar Wasg Nant y Mynydd yn 2023, sef 'Argaeau oer ar Geiriog' gan y rhoddwr, a cherdyn Nadolig yn dangos Ystrad Fflur.

Ceiriog Jones, Huw

Papurau Llio Rhydderch

  • GB 0210 LLIORHYDD
  • Fonds
  • 1951-[2017]

Rhan gyntaf casgliad Papurau Llio Rhydderch, yn cynnwys trawsgrifiad o atgofion y rhoddwr, ynghyd â chopïau o luniau a dogfennau yn adlewyrchu ei pherthynas ag Urdd Gobaith Cymru.

Amlen frown gyda llawysgrifen ei mam, "Darnau gyfansoddodd Llio i adrodd gyda'r delyn gyda Mr Oswald Griffith Bangor. Enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951", ynghyd â nodyn eglurhaol yn llaw y rhoddwr, tri darn o gerddoriaeth a chopi o doriad papur newydd. Yn ogystal ceir amlen blastig yn cynnwys gwaith cyfansoddi y rhoddwr yn ystod 1951-1970au, nodyn eglurhaol yn ei llaw a cherddoriaeth Dwy Gwningen Fach, Down by the Salley Gardens, Can i fudiad merched y wawr, Y Bont, a Cwningod. Mehefin 2021.

Cyfansoddiadau a threfniadau; trefniannau cerddorol ar gyfer gweithdai telyn; a sylabws cerddorol Ysgol David Hughes, Porthaethwy, lle bu'r rhoddwr yn dysgu; Mai 2022.

Ychwanegiad i'r archif yn cynnwys papurau, deunydd clyweledol, ffotograffau a phosteri; Tachwedd 2024. Trosglwyddwyd dau focs yn cynnwys deunydd clyweledol i'r Archif Sgrin a Sain.

Ffeiliau yn cynnwys llythyrau at y rhoddwr, papurau yn ymwneud â theithiau, erthyglau a thorion papur newydd, ynghyd â chasgliad ei thad, Prydderch Williams (rhestr gyda'r bocsys); Chwefror 2025.

Rhydderch, Llio

CMA: Cofysgrifau Eglwys Maesyffynnon, Llangybi

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1986-2020

Adroddiadau blynyddol 1999, 2007-2010 a 2012-2015; Taflen Gwasanaeth Datgorffori Maesyffynnon, dydd Sul, 1 Awst 2021; Awst 2021. Llyfr cofnodion y blaenoriaid, 1986-2020; Hydref 2024.

Eglwys Maesyffynnon, Llangybi

Papurau Wynfford James

  • Fonds
  • 1966-2016

Mae’r papurau a dderbyniwyd yn 2023 yn adlewyrchu dwy elfen o fywyd a gyrfa Wynfford James. Bu Wynfford James yn aelod gweithgar o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod yr 1970au a’r 80au, ac fe’i carcharwyd tair gwaith am weithredu yn enw’r Gymdeithas, gan gynnwys pan gafodd ef a Rhodri Williams eu carcharu yn 1978 am achosi difrodi i fast ddarlledu Blaenplwyf. Ac o ran ei yrfa, bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar Antur Teifi, menter gymdeithasol a sefydlwyd yn 1979 i helpu busnesau yn Nyffryn Teifi i ddechrau a ffynnu, cyn iddo ymuno ag Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) yn bennaeth ar y Gyfarwyddiaeth Datblygu yn y Sector Bwyd.

Wynfford James

Papurau Siôn T. Jobbins

  • GB 0210 STJOBB
  • Fonds
  • 1988-2023

Deunydd printiedig a phapurau, 1988-2023, a gasglwyd gan, a sy'n ymwneud â'r rhoddwr, gan gynnwys deunydd ynglŷn â'i ymgyrch fel Ymgeisydd Seneddol Gogledd Caerdydd yn Etholiad Cyffredinol 2001.

Siôn T. Jobbins

Papurau Gwenlyn Parry

  • GB 0210 GWENLYN
  • Fonds
  • [1962]-1993

Papurau Gwenlyn Parry, [1962]-1993, yn cynnwys sgriptiau a phapurau amrywiol yn ymwneud â'i ddramâu llwyfan, [1966]-1992, a'i ddramâu teledu, radio a ffilm, [1966]-[1991]; papurau'n ymwneud ag addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, [1966]-1991; sgriptiau gweithiau gan eraill, [1966]-1991; papurau amrywiol yn ymwneud â'i waith, megis rhageiriau ac erthyglau, 1968-[1991]; deunydd printiedig, 1962-1991; a phapurau personol a theyrngedau, 1962-1993. = Papers of Gwenlyn Parry, [1962]-1993, comprising scripts and various papers relating to his stage plays, [1966]-1992, and television and radio dramas, [1966]-[1991]; papers relating to Gwenlyn Parry and Endaf Emlyn's television adaptation of Caradog Prichard's novel Un Nos Ola Leuad, [1966]-1991; scripts of works by others, [1966]-[1991]; various work-related papers, such as prefaces and articles, 1968-[1991]; printed material, 1962-1991; and personal papers and tributes, 1962-1993.

Parry, Gwenlyn

Papurau Ioan Roberts

  • GB 0210 IOROBERTS
  • Fonds
  • 1965-2018

Casgliad o bapurau ymchwil y newyddiadurwr, y darlledwr a'r awdur Ioan Roberts (1941-2019), Pwllheli. Maent yn adlewyrchu ei waith o baratoi nifer o gyfrolau, fel awdur neu olygydd, yn ystod rhan olaf ei fywyd: deunydd cofiannol megis Elfed: Cawr ar Goesau Byr (2000) a Philip Jones Griffiths: Ei Fywyd a'i Luniau (2017), a'r cyfrolau Achos y Bomiau Bach (2001), Rhyfel Ni: Profiadau Cymreig o Ddwy Ochr Rhyfel y Falklands/Malvinas (2003), a Pobol Drws Nesa: taith fusneslyd drwy Iwerddon (2008).

Roberts, Ioan

Papurau Caryl Lewis

  • GB 0210 CARLEW
  • Fonds
  • [2024]

Prawf-gopi o Bitter Honey, nofel Saesneg gan Caryl Lewis a gyhoeddir yn 2025. Cyflwynwyd i’r Llyfrgell gan yr awdur adeg ffilmio rhaglen yng nghyfres ‘Cyfrinachau’r Llyfrgell’ (SLAM Media), 21 Tachwedd 2024.

Lewis, Caryl

Papurau Gwenfron Hughes

  • GB 0210 GWFRONES
  • Fonds
  • [1942]-1969

Casgliad o ddogfennau yn perthyn i Gwenfron Hughes, gan gynnwys llythyrau a sgriptiau.

Hughes, Gwenfron

Results 1881 to 1900 of 2016