Llythyrau (21) at Tom Williams oddi wrth D. Carelio Morgan,
- NLW Misc. Records 346.
- ffeil
- 1973-1976.
Llythyrau (21) at Tom Williams oddi wrth D. Carelio Morgan. = Letters (21) to Tom Williams from D. Carelio Morgan.
2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Llythyrau (21) at Tom Williams oddi wrth D. Carelio Morgan,
Llythyrau (21) at Tom Williams oddi wrth D. Carelio Morgan. = Letters (21) to Tom Williams from D. Carelio Morgan.
Llythyrau : Rhyfel Byd Cyntaf,
Llythyrau, 1917-1918, oddi wrth Owen Thomas o'r Aifft a Phalesteina, ac oddi wrth ei frawd Tom o Ffrainc at eu brawd a'u chwaer ym Modorgan, Môn, pan oeddynt yn filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Llungopïau o lythyr, 1879, oddi wrth J. a W. James at eu teulu yn Nhalybont. Ymfudodd y pâr o Bontrhydfendigaid i Wisconsin yn 1847, ynghyd â throsiad i'r Saesneg. = Photocopies of a letter from J. and W. James, 1879, to their family in Talybont. The couple emigrated from Pontrhydfendigaid to Wisconsin in 1847, together with an English translation.
Llythyr milwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf,
Llythyr dyddiedig 16 Hydref 1916, wedi ei ysgrifennu gan y milwr Richard Jones o ffosydd y Somme yn Ffrainc at ei chwaer a'i gŵr ym Mrithdir, Dolgellau.
Traethawd gan W. Arvon Roberts ar ymfudo o Lŷn i'r Amerig, 2011.
Roberts, W. Arvon.
Dau lyfr nodiadau'r Parch. Dan Jones (1888-1943), gweinidog Capel Bwlchgwynt, Tregaron, a ddefnyddiwyd ganddo i gofnodi manylion am gyfarfodydd eglwysig, angladdau a phriodasau, ynghyd â phapurau David Caronian Jones, Medical Hall, Tregaron, cynghorydd ac ymgyrchydd. = Two notebooks of the Reverend Dan Jones (1888-1943), minister of Bwlchgwynt Chapel, Tregaron, used for recording details of church meetings, funeral and weddings, together with the papers of David Caronian Jones, Medical Hall, Tregaron, councillor and campaigner.
Jones, Dan. 1888-
Tri o lyfrau lloffion a gedwid gan y diweddar O. Trevor Roberts (y llenor 'Llanowain'), Rhuthun, a fu'n byw yn Lerpwl, yn cynnwys llythyrau, ffotograffau, torion o'r wasg ac adolygiadau o'i gyhoeddiadau, ynghyd â llyfr nodiadu yn cynnwys rhai cerddi a anfonodd i eisteddfodau.
Roberts, Owen Trevor.
Llyfrau lloffion Anthony Goulty,
Tair cyfrol yn cynnwys toriadau papur newydd o golofnau'r Faner a'r Cymro'n ymwneud â gloywi iaith a garddio. Ceir torion hefyd yn ymwneud â D. Tecwyn Evans ac o'i golofn 'Gloywi'r iaith' yn Y Faner. Yr oedd y diweddar Anthony Goulty, Sais o gyfreithiwr ym Manceinion, wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac yn aelod o Gymdeithas Gymraeg Caer. Bu'n weithgar iawn yn ogystal gyda Sain Clwyd Sound, sef grŵp o weithwyr gwirfoddol, gan gynnwys y rhoddwr, a oedd yn cyfarfod yn stiwdio Sain Clwyd yn rheolaidd i wneud tapiau i'r Deillion.
Naw llyfrau darllen bychan: 'Sam a Ben' (I-iii); 'Sam a Ben a Tomi' gan Miss Megan Thomas, Abersoch; 'Lipti Lop yn y bocs'; 'Lipti Lop yn y bath'; 'Lipti Lop yn mynd I'r gwely'; 'Y Llygoden Fach Wen'; 'Dilys a'r Dewin' gan Mrs C. Grainger Smith.
Thomas, Megan.
Llyfrau cerddoriaeth D. J. Griffiths,
Tair llawysgrif gerddorol D. J. Griffiths, Crown Stores, Llandybie, yn cynnwys 'Tonau cynulleidfaol' a 'Tonau plant'. Ei enw gorseddol oedd 'Alawydd Tybie' ac roedd yn dad i'r rhoddwr T. Elwyn Griffiths. Cyfansoddwyd yr emyn-donau hyn rhwng 1926 a 1947 a nodir i rai ohonynt gael eu cyhoeddi yn Tywysydd y Plant.
Griffiths, D. J.
Cyfrol yn cynnwys cyflwyniad o farddoniaeth a rhyddiaith yn portreadu stori'r Ffydd yng Nghymru gan 'Cefni' a gyflwynwyd i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Môn a gynhaliwyd yn Llangefni, 1957.
Llyfr tonau, 1860, o eiddo Lewis Evans, Maesllwyni, Darowen, sir Drefaldwyn, yn cynnwys emyn-donau yn bennaf. Mae mynegai i'r tonau ar y dudalen rwymo a t. 243. = Tune book, 1860, of Lewis Evans, Maesllwyni, Darowen, Montgomeryshire, containing mainly hymn tunes. There is an index to the tunes on the fly-leaf and p. 243.
Llyfr tonau, [19 gan., hanner cyntaf], yn cynnwys emyn-donau ac ychydig anthemau, rhai yn cynnwys y geiriau Cymraeg. Ceir mynegai i'r tonau (tudalen rwymo). = A tune book, [19 cent., first half], containing hymn tunes and a few anthems. An index to the tunes is included (fly leaf).
Llyfr tonau, [19 gan.], yn cynnwys emyn-donau a salmau, nifer yn cynnwys y geiriau Cymraeg. Priodolir y dôn 'Myfyrdod' i John Edwards, Llangadog (t. 25), a rhai o'r tonau eraill i E. Evans, Eglwysfach (tt. 19, 57, 61). = Tune book, [19 cent.], containing hymn-tunes and psalms. The tune 'Myfyrdod' is attributed to John Edwards, Llangadog (p. 25), and some of the other tunes to E. Evans, Eglwysfach (pp. 19, 57, 61).
Llyfr tonau, [1822x1864], o eiddo Timothy Jones, yn cynnwys alawon ac emyn-donau, rhai gan John Edwards, Llangadog; ynghyd â rhai hen benillion. = Tune book, [1822x1864], of Timothy Jones, containing airs and hymn tunes, some by John Edwards, Llangadog; together with some Welsh folk poetry.
Llyfr tonau, 1857, o eiddo William Peat, yn cynnwys emyn-donau ac anthemau heb eu priodoli. = Tune book, 1857, of William Peat, containing unattributed hymn-tunes and anthems.
Ceir fersiwn o'r dôn 'Y Delyn Aur', ynghyd â'r geiriau, ar f. 19 verso. = A version of the tune 'Y Delyn Aur', with words, is on f. 19 verso.
Cyfrol o emynau ac emyn-donau, 1824-1827, yn bennaf yn llaw 'Ioan ap Iago ap Dewi', o bosib John James (Ioan ap Iago), Cil-y-cwm, sir Gaerfyrddin, bardd ac awdur y llyfr Ehediadau Barddonol, ar Amryw Destunau (Llanymddyfri, 1828), a gyhoeddwyd ar ôl ei farw. = A volume of hymns and hymn-tunes, 1824-1827, mainly in the autograph of 'Ioan ap Iago ap Dewi', who is possibly to be identified with John James (Ioan ap Iago) of Cil-y-cwm, Carmarthenshire, poet and author of the posthumously published Ehediadau Barddonol, ar Amryw Destunau (Llandovery, 1828).
Mae'r tonau a'r geiriau, gyda defnydd ysbeidiol o goelbren y beirdd, wedi eu rhwymo gyda chopi printiedig o John Harris, Grisiau Cerdd Arwest: Sef Cyfarwyddiadau Eglur a Hyrwydd at Ddysgu Peroriaeth: Ynghyd a Gwersi i Ddechreuwyr (Abertawe, 1823). Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys tair cyfres o englynion (f. 2 recto-verso), un wedi ei briodoli i Dafydd ap Gwilym (f. 2), ac un arall i Thomas Williams (Gwilym Morgannwg) (f. 2 verso). Mae dalen brintiedig yn dwyn yr emyn 'Y Cristion yn Marw' gan P[eter] Jones [Pedr Fardd], Llynlleifiad (Abertawe, [?1827]) wedi ei phastio y tu mewn i'r clawr blaen (gweler hefyd ff. 65 verso-68), a sieciau London Bank, yn daladwy i Evan Morgan, 1823, wedi eu pastio y tu mewn i'r clawr cefn. = The manuscript tunes and words, with occasional use of coelbren y beirdd, are bound with a printed copy of John Harris, Grisiau Cerdd Arwest: Sef Cyfarwyddiadau Eglur a Hyrwydd at Ddysgu Peroriaeth: Ynghyd a Gwersi i Ddechreuwyr (Swansea, 1823). Also included are three sequences of englynion (f. 2 recto-verso), one attributed to Dafydd ap Gwilym (f. 2) and another to Thomas Williams (Gwilym Morgannwg) (f. 2 verso). A printed leaf containing the hymn 'Y Cristion yn Marw' by P[eter] Jones [Pedr Fardd], Llynlleifiad (Swansea, [?1827]) has been pasted inside the front cover (see also ff. 65 verso-68), and cheques of the London Bank, payable to Evan Morgan, 1823, have been pasted inside the back cover.
Llyfr tonau, [19 gan., hanner cyntaf], yn cynnwys emyn-donau ac ychydig anthemau, rhai yn cynnwys y geiriau Cymraeg. Ceir hefyd hyfforddiant ar ddysgu cerddoriaeth (tudalen rwymo) a mynegai i'r tonau (f. 134). = A tune book, [19 cent., first half], containing hymn tunes and a few anthems, some with the Welsh words. Instruction on the theory of music (fly leaf) and an index to tunes (f. 134) are also included.
Llyfr tonau, [19 gan., hanner cyntaf], yn cynnwys salm-donau, anthemau ac emynau, y mwyafrif heb eu priodoli. Ymddengys iddynt gael eu canu yng ngwasanaethau'r eglwys yn Llanfair Dyffryn Clwyd, sir Ddinbych (nodyn y tu mewn i'r clawr blaen). = Tune book, [19 cent., first half], containing mainly unattributed psalm tunes, anthems and hymn tunes, apparently sung at church services in Llanfair Dyffryn Clwyd, Denbighshire (note inside front cover).
Llyfr tonau, [19 gan., ail hanner], yn cynnwys anthemau ac emyn-donau. = Tune book, [19 cent., second half], containing anthems and hymn-tunes.