Copi o farwnad gan Myfyr Wyn i Mrs E. Llewelyn, priod Mr Rowland Llewelyn, Clungwyn, Blaenrhondda, a fu farw 24 Mai 1887 yn 64 mlwydd oed. Fe'i hargraffwyd gan I. Jones, Treherbert.
Englynion gan 'Hydd Cyfeiliog' (David John Rees, ?1882-1969) a ysgrifennwyd mae'n debyg ar gyfer cystadleuaeth i gyfansoddi casgliad o ddeuddeg englyn nas cyhoeddwyd o'r blaen yn Eisteddfod Aberhosan, 19 Ionawr 1933, ynghyd â nodyn bywgraffyddol amdano.
Casgliad o bapurau amrywiol yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Phlaid Cymru, wedi eu casglu ynghyd gan Meri Huws yn ystod y 1970au fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fel ymgyrchydd iaith ac yn adlewyrchu ei diddordebau gwleidyddol.
Llawysgrif dwy sioe gerdd: 'Culhwch ac Olwen' [gan Rhiannon Ifans] a 'Dŵr' [sioe am hanes Tryweryn gan Bethan Bryn a Jeremy Turner a berfformiwyd yng Ngŵyl Gerdd Dant Aberystwyth, 2003], gyda rhai gosodiadau cerdd dant.
Atgofion John P. Davies am ei blentyndod yn Nyffryn Aman gyda'r digrifwr a'r perfformiwr Ryan Davies, a'u cyfnod yn gwneud gwasanaeth milwrol yn y Llu Awyr, [2000x2009], ynghyd ag atgofion yr awdur o'i brofiadau yn gwasanaethu ym Mesopotamia, 1955-57.
Llyfr nodiadau, [?1897], yn cynnwys cerddi amrywiol, gan gynnwys enghraifft wych o gerdd hir yn nhraddodiad yr arwrgerdd yn dwyn y teitl 'Brawdoliaeth gyffredinol', o bosib gan William Davies, Bronheulwen, Llanidloes ['Brawdoliaeth gyffredinol' oedd testun yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897].
Papurau, 1950-1966, gohebiaeth yn bennaf yn ymwneud ag Urdd Siarad Cymraeg, sef mudiad a sefydlwyd gan y Parch. Ddr R. Leonard Hugh ac eraill ym mis Mai 1947, ynghyd â llyfr nodiadau a chyfrifon a ddefnyddiwyd ym mhabell yr USC yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth, 1952 ac yn Y Rhyl, 1953.
Cyfrol o farddoniaeth David Davies, tad yr artist John Elwyn a pherchennog ffatri wlân Emlyn yn Adpar, gan gynnwys cerddi a anfonodd i eisteddfodau lleol, [1892]-[1937].
Llythyrau oddi wrth Islwyn Ffowc Elis at y rhoddwr Huw Ceiriog Jones, 1972, yn ymwneud â threfnu i'w gwmni Gwasg yr Arad Goch argraffu a rhwymo nofel argraffedig y llenor yn seiliedig ar y gyfres deledu Tre-sarn a ddarlledwyd gan y BBC.
Papurau, [1948]-[1985], yn ymwneud â'r llenor Gwenallt, gan gynnwys rhaglen deyrnged a gyflwynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw, 1980, y sgript gan Dafydd Rowlands [diweddar ŵr Mrs Margaret Rowlands].