Dangos 15048 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig
Rhagolwg argraffu Gweld:

212 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Sgriptiau Gwynne D. Evans

  • GB 0210 GWYDEV
  • Fonds
  • 1917-1988

Sgriptiau dramâu Gwynne D. Evans, 1946-[1979], gan gynnwys rhai a ddanfonwyd i gystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac a ddarlledwyd ar y radio ac ar y teledu; sgriptiau 'Pobol y Cwm'; ynghyd â phapurau’n ymwneud â’i waith fel cynhychydd Under Milk Wood a Dan y Wenallt.

Evans, Gwynne D. (Gwynne David), 1908-

Sgriptiau radio R. Geraint a Luned Gruffydd,

  • NLW ex 2524.
  • ffeil
  • 1950-1970.

Sgriptiau, 1950-1970, a ddarlledwyd gan y BBC ac a luniwyd gan yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd yn bennaf, ynghyd â rhai gan ei wraig Luned Gruffydd, neu rhai y buont ynghlwm wrthynt. = Scripts, 1950-1970, transmitted by the BBC, written mainly by Professor Emeritus R. Geraint Gruffydd, together with some by his wife Luned Gruffydd or scripts they were involved with.

Gruffydd, R. Geraint

Sgwrs gyda Gwenlyn Parry,

  • NLW ex 2832.
  • ffeil
  • [2013].

Adysgrif, [2013], o sgwrs rhwng Llyr Gwyndaf, mab y rhoddwr, a'r dramodydd Gwenlyn Parry, a gyflwynodd fel rhan o'i gwrs drama yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, ar ffurf casét yn 1985.

Gwyndaf, Llyr.

Synnwyr a hiwmor

  • NLW ex 2457.
  • Ffeil
  • 2003.

Gwaith y rhoddwr, nith T. Gwynn Jones, mewn teipysgrif, a ysgrifennodd ar gais ei phlant ac sy’n cynnwys atgofion am y llenor, ynghyd â choeden deulu sy'n dangos y berthynas rhyngddynt.

Jones, Eirlys.

Taflen gwasanaeth coffa,

  • NLW ex 2503.
  • ffeil
  • 1920.

Taflen gwasanaeth a gynhaliwyd i ddadorchuddio cofeb yng Nghapel Charing Cross Road, Llundain, 6 Rhagfyr 1920, i goffáu deunaw o filwyr a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Prif Weinidog David Lloyd George a wahoddwyd i ddadorchuddio'r gofeb.

Taflenni gwleidyddol amrywiol,

  • NLW ex 2672.
  • ffeil
  • 1964-2008.

Taflenni amrywiol yn ymwneud â Phlaid Cymru yn bennaf, 1964-2008, gan gynnwys gohebiaeth etholiadol y rhoddwr Llŷr Hughes Griffiths fel ymgeisydd mewn etholiadau cyffredinol a'r Cynulliad Cenedlaethol. = Miscellaneous printed material, 1964-2008, relating mainly to Plaid Cymru including election communications of the donor Llŷr Hughes Griffiths as a candidate in general elections and Assembly elections.

Hughes Griffiths, Llŷr.

Teulu 'Dewi Haran',

  • NLW ex 2418.
  • ffeil
  • 1839-[1954].

Coeden deulu gan David Evans ('Dewi Haran', 1812-1885) yn olrhain disgynyddion Thomas Phillip (g. 1536), ynghyd â medal arian a gyflwynwyd iddo yn 1849 gan Dafydd Hopkins am y gerdd orau i gŵn hela Llanharan. Ceir cerdd brintiedig In Memoriam. Beth am y bedd? gan Dewi Wyn o Essyllt (cyflwynedig i Dewi Haran ar farwolaeth ei briod yn 1878) a Posi ar fedd 'Dewi Haran' gan Glanffrwd, [1885].

Evans, David, Dewi Haran, 1812-1885

Teulu Syr Ben Bowen Thomas,

  • NLW Misc. Records 288.
  • Ffeil
  • 1827-1838.

Tudalen o Feibl teulu yn cynnwys dyddiadau geni tad-cu a mam-gu Syr Ben Bowen Thomas. = Page from a family Bible giving dates of birth of Sir Ben Bowen Thomas's grandparents.

Heb deitl

Torion papur newydd Clwb yr Efail, Llanrwst,

  • NLW Misc. Records 514.
  • ffeil
  • 1951-1953.

Llyfr nodiadau yn cynnwys torion papur newydd wedi'u pastio mewn i'r gyfrol, rhaglenni, ayb, yn ymwneud â gweithgareddau Clwb yr Efail, Llanrwst, sir Ddinbych, 1951-1953. = A notebook containing pasted-in newspaper cuttings, printed programmes, etc., relating to the activities of Clwb yr Efail, Llanrwst, Denbighshire, 1951-1953.

Traethawd 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' gan J. Lloyd Williams,

  • NLW Misc. Records 504.
  • ffeil
  • [1920x1945].

Copïau teipysgrif (3) o draethawd (54 tt.) gan y diweddar Athro J. Lloyd Williams ar 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' yn ymwneud â'r dystiolaeth o weithgareddau cerddorol ymysg y Brythoniaid a'r Cymry o gyfnod y Derwyddon hyd at ddiwedd y ddegfed ganrif. = 'Three copies (duplicated typescript) of an essay (54pp.) in Welsh by the late Professor J. Lloyd Williams on 'Cerddoriaeth y Brythoniaid' in which he examines the evidence relating to musical activities amongst the Britons and Welsh from Druidic times to the late tenth century.

Traethawd diwinyddol,

  • NLW MS 16148A.
  • ffeil
  • [1800x1825] /

Traethawd diwinyddol yn dwyn y teitl 'Addysg i fyw erbyn tragwyddoldeb', wedi'i gopïo yn ystod chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg (dyfrnod 1799) gan Robert Richards, Trefriw. = A theological essay entitled 'Addysg i fyw erbyn tragwyddoldeb', copied during the first quarter of the nineteenth century (watermark 1799) by Robert Richards, Trefriw.

Richards, Robert, of Trefriw.

Traethodau gan D. T. Evans, Llandysul,

  • NLW Misc. Records 538-539.
  • ffeil
  • 1921-1923.

Two essays submitted by D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul for local eisteddfodau, namely 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), and 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923). = Dau draethawd a gyflwynwyd gan y diweddar Mr. D. T. Evans, Cross Lane, Croes-lan Llandysul, mewn eisteddfodau lleol, sef 'Tai Dadfeiliedig Plwyfi Bangor, Llanfair, a Llandysul hyd ochr orllewinol Afon Cerdin' (1921), a 'Diffygion Amaethyddiaeth Sir Aberteifi' (1923).

Trosiadau Hywel Berwyn Evans (sol-ffa),

  • NLW ex 2534.
  • ffeil
  • [1935]-[2006] /

Chwe chyfrol yn cynnwys darnau clasurol wedi'u trosi i nodiant sol-ffa gan Hywel Berwyn Evans (1915-2006), llyfrgellydd ym Mhrifysgol Birmingham ac organydd yn Eglwys Bresbyteraidd Bethel yn y ddinas. Maent yn cynnwys gweithiau gan Handel, Sibelius, Mendelssohn a Bach.

Evans, Hywel Berwyn.

Unawdau, deuawdau ac emyn-donau ,

  • NLW MS 17409D.
  • ffeil
  • 1909-1923 /

Cerddoriaeth sol-ffa a hen nodiant yn bennaf gan, neu a drefnwyd gan, ac yn llaw, y Parchedig W. E. Penllyn Jones, gan gynnwys unawdau, deuawdau, cytganau, emyn-donau ac emynau = Music, both sol-ffa and old notation, chiefly by, or arranged by, and in the hand of, the Reverend W. E. Penllyn Jones, and which includes solos, duets, choruses, hymn-tunes and hymns.
Ceir emyn-donau hefyd gan R[owland] H[uw] Pritchard (f. 43), James Leach (f. 82), Chester G. Allen (f. 104) ac eraill; emyn gan y Parchedig D[avid] Tecwyn Evans (f. 48); a chopi o gytgan, ynghyd â nodyn byr, yn llaw 'L. D. J.' sef Lewis Davies Jones ('Llew Tegid') (f. 60) = Also included are hymn tunes by R[owland] H[uw] Pritchard (f. 43), James Leach (f. 82), Chester G. Allen (f. 104) and others; a hymn by the Reverend D[avid] Tecwyn Evans (f. 48); and a copy of a chorus, together with a brief note, in the hand of 'L. D. J.' (Lewis Davies Jones ('Llew Tegid')) (f. 60).

Jones, W. E. (William Evans), 1854-1938.

Canlyniadau 701 i 720 o 15048