Fonds GB 0210 TABRUTH - CMA: Cofysgrifau Capel Y Tabernacl, Rhuthun

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 TABRUTH

Teitl

CMA: Cofysgrifau Capel Y Tabernacl, Rhuthun

Dyddiad(au)

  • 1903-1956 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

0.028 metrau ciwbig (9 cyfrol); 1 bocs mawr (adnau Medi 2005); 1 bocs mawr (Chwefror 2007).

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Robert Ambrose Jones ('Emrys ap Iwan', 1851-1906), was a Welsh Calvinistic Methodist minister, litterateur and literary critic.

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ym mis Chwefror 1889 penderfynodd pwyllgor o dan arweiniad y gweinidog ar y pryd, y Parch. R. Ambrose Jones (Emrys ap Iwan), i godi capel newydd yn Rhuthun yn lle Capel y Rhos. Roedd gan y gweinidog ei hun ddylanwad yng nghynllun yr adeilad, diddordeb a godai yn ôl y sôn o'r cyfnod y bu yn byw yn Ffrainc. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn hen gapel y Rhos ar 19 Ebrill 1889 gyda'r cyfarfodydd agoriadol yn dilyn yn y Tabernacl rhwng 22 Ebrill a 29 Ebrill. Ychwanegwyd mans a thŷ i'r gofalwr ym 1892. Ar ôl symud i'r capel newydd, sefydlwyd Capel Stryd y Rhos fel ysgoldy a chanolfan ar gyfer gweithgareddau eraill a ddaeth i ben ym 1944.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan y gweinidog presennol, y Parch. John Owen, Rhuthun, Gorffennaf 2000, gan Mr D. Eifion Wynne, Rhuthun, Medi 2005 a thrwy law'r Parch. J. E. Wynne Davies, Aberystwyth, Chwefror 2007.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion, 1926-1949, dyddlyfr yr eglwys, 1930-1943, llyfrau casgliad at y Weinidogaeth, 1903-1953, llyfr yr Eisteddleoedd, 1943-1956 a llyfrau cyfrifon, 1938-1956. Daeth ychwanegiad at y casgliad yn cynnwys llyfrau'r Eisteddleoedd (3) 1916-1929, 1930-1942 a 1960; cash book, 1898, cyfrif ariannol y Capel Newydd, 1889-1893, llyfr casgliad tuag at y Weinidogaeth 1969-1973, llyfr seddau, adeiladau, diolchgarwch, Cenhadaeth a Phensiwn, 1969-1973; llyfrau casgliad Eglwysig (2), 1974-1979; casgliad Eglwysig, 1980-1984; casgliad Eglwysig, 1985-1989; casgliad Eglwysig, 1990-1994; Gweddi Emrys ap Iwan ar ddydd agor y Tabernacl, 5/4/1891; 1 chofnodion cyfarfod y Swyddogion (Blaenoriaid), 1950-1999.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion..

Croniadau

Disgwlir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn LlGC yn bum cyfres: llyfrau cofnodion, cofnodion cyfarfodydd y swyddogion, llyfrau casgliad y weinidogaeth, llyfrau'r eisteddleodd a llyfrau cyfrifon.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir adroddiadau blynyddol y capel,1891-1988, yn Adran Llyfrau, LlGC, ac am 1937-82, yn Archifdy Sir Ddinbych, lle ceir rhai gweithredoedd y capel hefyd. Ceir llyfr cyfrifon y capel, 1890-1919, yn NLW MS 13894C.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004186263

GEAC system control number

(WlAbNL)0000186263

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2001

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Merfyn Wyn Tomos.

Nodyn yr archifydd

Y brif ffynhonnell a ddefnyddiwyd oedd Pugh, J. Meirion Lloyd, Dathlu Dwbl: hanes daucanmlwyddiant yr achos, Capel y Rhos, 1791-1891 a'r Tabernacl, 1891-1991 (1991).

Ardal derbyn