Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1961] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Adolygiad Waldo Williams o Cerddi Rhydd gan Euros Bowen (Gwasg y Brython, 1961) a Yr Efrydd o Lyn Cynon, a Cherddi Eraill gan Pennar Davies (Gwasg y Dryw, 1961) a dynnwyd o ffynhonell brintiedig.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Ganed y bardd a'r offeiriad Euros Bowen (1904-1988) yn Nhreorci a'i addysgu yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, Coleg Prifysgol Aberystwyth, Coleg Prifysgol Abertawe, a Cholegau Mansfield a'r Santes Catherine, Rhydychen. Bu'n gwasanaethu'r Eglwys yng Nghymru yn Wrecsam ac yn Llanuwchllyn/Llangywer. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cerddi, ym 1957 a'i ail gyfrol, Cerddi Rhydd, ym 1961. Bu'n arloesol yn ei arddull o ddatblygu'r mesurau traddodiadol Cymreig trwy ei ddefnydd o ddylanwadau barddonol o'r Cyfandir. Cyfieithwyd ei waith i'r Saesneg gan R. Gerallt Jones, Joseph Clancy ac eraill. Ennillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr ym 1948 a Choron Eisteddfod Genedlaethol Caerffili ym 1950. Bu'n Olygydd cylchgrawn llenyddol Y Fflam o 1946 hyd 1952.
Nodiadau
Ganed y bardd, llenor a'r gweinidog Annibynnol William Thomas Pennar Davies (1911-1996) yn Aberpennar, Cwm Cynon a'i addysgu yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, Colegau Balliol a Mansfield, Rhydychen a Phrifysgol Iâl yn yr Unol Daleithiau. Dysgodd Gymraeg yn ei lencyndod a mabwysiadu'r enw Pennar er mwyn mynegi ei uniaethiad â diwylliant cenedlaethol Cymreig. Bu'n Athro mewn Hanes Eglwysig yng Ngholeg Diwinyddol Bala-Bangor ac yng Ngholeg Goffa'r Annibynwyr, Aberhonddu. Fe'i penodwyd yn Brifathro Coleg Goffa Aberhonddu ym 1950 ac yna'n Brifathro Coleg Goffa Abertawe o 1959 hyd ei ymddeoliad ym 1979. Tra'n ŵr ifanc, bu'n barddoni yn y Gymraeg a'r Saesneg, ond y Gymraeg oedd ei unig gyfrwng o 1948 ymlaen. Safodd fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn etholiadau cyffredinol 1964 a 1966, yn ogystal â golygu The Welsh Nationalist, misolyn y blaid, o 1947 ymlaen.