Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1909 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
1 bocs (1 gyfrol).
Context area
Name of creator
Biographical history
Name of creator
Biographical history
Roedd 'Anthropos', y Parch. Robert David Rowland ([1953]-1944), yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn fardd ac yn llenor. Cafodd ei fagu yn Nhyn-y-cefn, ger Corwen, sir Feirionnydd. Dechreuodd bregethu yn 1873 a chofrestru yng Ngholeg y Bala yn 1874. Tra'r oedd yn y Bala bu'n athro yn yr ysgol leol a chyhoeddodd gyfrol o gerddi, Y Blodeuglwm (Bala, 1878). Symudodd i Gaernarfon lle bu'n newyddiadurwr, gan weithio ar Yr Herald Gymraeg, Amseroedd ac Y Genedl Gymreig, y bu'n olygydd arni o 1881 i 1884. Ordeiniwyd ef yn 1887, a chael ei alw yn weinidog Capel Beulah yng Nghaernarfon yn 1890, lle yr arhosodd tan ei ymddeoliad yn 1933. Parhaodd i ysgrifennu'n doreithiog, yn cyhoeddi cyfrolau o gasgliadau o gerddi, storiâu a thraethodau. Ymysg y pwysicaf ohonynt ceir Y Ffenestri Aur (Dinbych, 1907) a Y Pentref Gwyn (Wrecsam, 1909) lle rhydd atgofion am ei blentyndod. Bu hefyd yn olygydd Trysorfa'r Plant o 1912 i 1932 ac ysgrifennai i Baner, 1904-1914, yr Herald ac amryw o gyfnodolion eraill. Bu farw yng Nghaernarfon ar 12 Tachwedd 1944. Ymhlith ei gydnabod yr oedd Lewis William Lewis ('Llew Llwyfo', 1831-1901), bardd, newyddiadurwr, nofelydd a chanwr o Ben-sarn, sir Fôn, a weithiodd ar lawer o'r un cyfnodolion ag Anthropos.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Menna Cunningham; Rhuthun; Rhodd; Mehefin 2024.
Content and structure area
Scope and content
Copi personol Gomer Roberts, Cefn y Griolen, Llanelidan, (awdur Atgofion amaethwr) o waith Anthropos, Y pentre gwyn (Wrecsam, 1909), yn cynnwys nodiadau yn ei law.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library. = Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Cofnod bras, yn disgwyl ei ehangu. = Basic record, awaiting elaboration.
Note
Ni allwn ddarparu mynediad at ddeunydd sydd heb gael ei gatalogio heb drefniant ymlaen llaw. Cysylltwch â gwasanaeth ymholiadau’r Llyfrgell am fanylion pellach, gan ddarparu o leiaf ddeuddydd gwaith o rybudd cyn eich ymweliad. = We cannot provide access to material that has not been cataloged without prior arrangement. Contact the Library’s enquiries service for further details, providing a minimum of two working days’ notice before your visit.