Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1969-2023 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
2 focs mawr, 1 waled, 2 amlen (Ebrill 2024).
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ers 1969 mae Huw Ceiriog Jones wedi bod yn berchennog ar nifer o weisg Cymraeg yn cynnwys Gwasg Llety Gwyn, Gwasg yr Arad Goch, Gwasg y Wern a Gwasg Nant y Mynydd.
Hanes archifol
Cadwyd yr archif ym meddiant Huw Ceiriog Jones hyd at ei throsgwyddo i'r Llyfrgell.
Ffynhonnell
Rhoddwyd gan Huw Ceiriog Jones, Bow Street, Ceredigion, Mawrth 2008 (004561002), Rhagfyr 2015, Gorffennaf a Medi 2016, Mawrth 2018, Chwefror 2022, Hydref 2023 (99284511602419), ac Ebrill 2024 (99284511602419).
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Rhodd Mawrth 2008:
Un ffeil ar ddeg yn cynnwys cynnyrch gweisg y rhoddwr o 1969 ymlaen, sef Gwasg Llety Gwyn, Gwasg yr Arad Goch, Gwasg y Wern a'r un bresennol, Gwasg Nant y Mynydd.
Rhodd Rhagfyr 2015:
Deunydd a argraffwyd gan y rhoddwr ar Wasg Nant y Mynydd, 2015.
Rhodd Gorffennaf 2016:
Tair eitem ychwanegol Gwasg Nant y Mynydd, 2015, sef cerdyn, gwahoddiad a cherdd.
Rhodd Medi 2016:
Pum llythyr, 1970-1974, yn ymwneud â Gwasg Llety Gwyn a Gwasg yr Arad Goch, oddi wrth Aneirin Talfan Davies (2), T. H. Parry-Williams (2) ac R. Bryn Williams.
Rhodd Mawrth 2018:
Llyfryn Canu Penillion - Penillion Singing from The Misfortunes of Elphin by Thomas Love Peacock, a gyflwynwyd i Lionel Madden ar ddiwedd ei gyfnod fel Cadeirydd Grŵp Llyfryddol Aberystwyth, Mawrth 2018; ynghyd â manion a argraffwyd gan y rhoddwr yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rhodd Chwefror 2022:
Amlen yn cynnwys copi o Hen Deip, sef rhestr o gynnyrch Gweisg Llety Gwyn, Yr Arad Goch, Y Wern a Nant y Mynydd (2021), 'Trwy wyll y Clo' gan Annes Glynn (2020), a dau gerdyn Nadolig.
Rhodd Hydref 2023:
Ychwanegiad i gasgliad Gwasg Nant y Mynydd, 2022-23, sef amlen yn cynnwys cerdyn Nadolig, pennill 'Mi ddymunwn' [gan Huw Morys], ac 'Awdl y gath' gan Robin Clidro, ynghyd â cherdd 'I'r Pedwar' gan Vernon Jones, yn gyflwynedig i'r Parchedigion Elwyn Pryse, John Tudno Williams, R. Watcyn James ac Wyn Rhys Morris.
Rhodd Ebrill 2024:
Papurau, 1979-80, yn ymwneud â chynhyrchu'r gyfrol Y Gwir Degwch gan Iolo Morganwg (Gwasg y Wern, 1980); ynghyd â dwy eitem a argraffwyd ar Wasg Nant y Mynydd yn 2023, sef 'Argaeau oer ar Geiriog' gan y rhoddwr, a cherdyn Nadolig yn dangos Ystrad Fflur.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Cadwyd pob deunydd a roddwyd i LlGC.
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
System o drefniant
Cadwyd y drefn wreiddiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg a Saesneg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Cyfeirier at: Archif Argraffu Huw Ceiriog Jones
Nodiadau
Seilir y teitl ar gynnwys yr archif.
Nodiadau
Dylid archebu deunydd o'r archif hon trwy gysylltu â'r Llyrfgell.
Bydd staff LlGC yn gwneud Cais Di-Gatalog wedyn.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Ceiriog Jones, Huw (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Disgrifiad yn dilyn canllawiau LlGC yn seiliedig ar ISAD(G) 2il arg.; AACR2; ac LCSH
Statws
Final
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Lluniwyd y disgrifiad hwn gan Sian Bowyer a David Moore, Chwefror 2024.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifad: papurau o fewn yr archif.
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad hwn gan Sian Bowyer a David Moore.