Dangos 57632 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Mudiad Ysgolion Meithrin.

  • Corporate body

Sefydlwyd Mudiad Ysgolion Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Ysgolion Meithrin a Chylchoedd Chwarae Cymraeg, mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1971, gyda'r diben o hyrwyddo, cynnal ac ehangu'r ddarpariaeth o gylchoedd meithrin a chylchoedd chwarae gwirfoddol yn y Gymraeg ar hyd a lled Cymru, fel bod pob plentyn dan oed ysgol yng Nghymru yn medru derbyn addysg feithrin a datblygu trwy gyfrwng y Gymraeg. Lleolwyd pencadlys y mudiad yng Nghaerdydd i gychwyn (yn Aberystwyth erbyn hyn) ond y mae'r pwyslais ar gylchoedd chwarae lleol. Cofrestrir y grwpiau hyn, a elwir yn Gylchoedd Meithrin, yn elusennau annibynnol, a rheolir pob un gan bwyllgor o rieni a defnyddwyr eraill, sydd yn gyfrifol am fabwysiadu a gweinyddu polisïau, cyflogi staff, cyhoeddusrwydd a chodi arian. Trefnir y pwyllgorau ar lefel rhanbarth, gyda chefnogaeth rhwydwaith cenedlaethol o swyddogion datblygu. Cynyddodd nifer y Cylchoedd Meithrin o 70 yn 1971 i 574 yn 2003, a gall rhieni di-Gymraeg chwarae gyda'u plant a chymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg mewn nifer o Gylchoedd Ti a Fi.

music

Mwyn, Rhys, 1962-

Lawnsiwyd gyrfa Rhys Mwyn fel lleisydd a chwaraewr gitâr fâs gyda'r band roc/pync Cymraeg Yr Anhrefn, a sefydlwyd ym 1982. Y flwyddyn ganlynol fe gyd-ffurfiodd label recordiau Recordiau Anhrefn gyda'i frawd Siôn Sebon er mwyn hybu cerddoriaeth ei fand newydd a bandiau eraill. Yn ddiweddarach, daeth yn rheolwr y label recordiau Crai, dan yr hwn y cynhyrchwyd yr albwm electronig Hen Wlad Fy Mamau (1995). Bu'n asiant i sawl cerddor a band Cymraeg a pharha i hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg. Yn gyn-aelod o staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys, mae'n awdur sawl llyfr hanesyddol, gan gynnwys Cam i'r Gorffennol: Safleoedd Archaeolegol yng Ngogledd Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) a Real Gwynedd (Seren Books, 2021), yn ogystal â hunangofiant, Cam o'r Tywyllwch (Y Lolfa, 2006), a bu am sawl blwyddyn yn ysgrifennu colofn hanesyddol/archaeolegol i bapur wythnosol Yr Herald Cymraeg. Bellach, mae hefyd yn gyflwynydd radio a theledu, yn ymgynghorwr treftadaeth, yn arweinydd teithiau Bathodyn Glas ac yn ddarlithydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a chyrsiau Addysg i Oedolion ym Mhrifysgol Bangor. (https://www.ylolfa.com/awduron/635/rhys-mwyn; https://www.serenbooks.com/seren-author/rhys-mwyn/). = Rhys Mwyn launched his musical career as vocalist and bassist of Welsh punk rock band Yr Anhrefn, formed in 1982. In 1983, he and his brother Siôn Sebon co-founded the record label Recordiau Anhrefn in order to promote both Anhrefn's music and that of other bands. He later managed Crai record label, which produced the electronic album Hen Wlad Fy Mamau (1995). He acted as agent to several Welsh musicians and bands and continues to promote Welsh music. Having formerly worked for the Clwyd Powys Archaeological Trust, he is the author of several historical interest books, which include Cam i'r Gorffennol: Safleoedd Archaeolegol yng Ngogledd Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) and Real Gwynedd (Seren Books, 2021) as well as an autobiography titled Cam o'r Tywyllwch (Y Lolfa, 2006), and for a number of years published a weekly newspaper column on historical/archaeological subject matters in Yr Herald Cymraeg. He has since worked as a radio and television presenter, a heritage adviser, a Blue Badge tour guide and a lecturer with the Workers' Educational Association and Adult Learning at Bangor University.

Mynydd y Fflint (Church : Flint Mountain, Wales)

  • Corporate body

Credid mai gŵr o'r enw Dafydd Jones ddechreuodd yr achos ym Mynydd y Fflint ym 1801 ac ef a gychwynnodd yr Ysgol Sul yn ei gartref, Waen Isaf. Rhoddwyd tir i'r achos gan fonheddwr lleol, Edward Lewis, Bryn Edwyn, ac agorwyd y capel gan John Elias rhywbryd rhwng 1824 ac 1826. Ymestynnwyd ac atgyweiriwyd y capel ym 1859 ac adnewyddwyd yr adeilad ymhellach ym 1882.

Canlyniadau 1901 i 1920 o 57632