Showing 57637 results

Authority record

Williams, Stephen Joseph

  • n 80145969
  • Person
  • 1896-1992

Ganwyd Stephen Joseph Williams yn 1896 ger Ystradgynlais, Brycheiniog. Aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd ac fe raddiodd yn y Gymraeg yn 1921. Aeth yn athro am gyfnod wedi graddio yn Aberaeron a Llandeilo. Yna, yn 1927 cafodd ei benodi yn Ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Cyhoeddodd nifer o weithiau gan gynnwys Ffordd y Brawd Odrig, 1929, ac Ystorya De Carolo Magno, 1930. Yn ogystal รข hyn, fe olygodd nifer o weithiau, megis Llyfr Blegywryd gyda J. Enoch Powell, a gweithiau Robert ap Gwilym Ddu (Robert Williams). Roedd hefyd yn ramadegydd, ac fe gyhoeddodd Beginner's Welsh (1934), Elfennau Gramadeg Cymraeg (1959), ac A Welsh Grammar (1980). Bu farw yn 1992.

Results 1581 to 1600 of 57637