Dangos 57622 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Jones, T. Llew (Thomas Llew).

  • Person

Ganwyd Thomas Llewelyn Jones (1915-2009), bardd ac awdur llyfrau plant, ym Mhentre-cwrt, sir Gaerfyrddin, ar 11 Hydref 1915. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Llandysul a bu'n gwasanaethu yn yr Awyrlu a'r Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn hyfforddi'n athro. Bu'n brifathro ar ysgolion cynradd Tregroes a Choed-y-bryn, sir Aberteifi. Ym 1940 priododd â Margaret Jones, un o deulu'r Cilie, a thrwy hynny daeth dan ddylanwad beirdd megis Isfoel ac Alun Cilie. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy, 1958, ac yng Nghaernarfon, 1959. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi, gan gynnwys Sŵn y Malu (Llandysul, 1967) and Canu'n Iach! (Llandysul, 1987). Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau poblogaidd i blant, yn eu mysg Y Ffordd Beryglus (Llandysul, 1963), Ymysg Lladron (Llandysul, 1965) a Dial o'r Diwedd (Llandysul, 1968), Barti Ddu (Llandybïe, 1973), Un Noson Dywyll (Llandysul, 1973), Tân ar y Comin (Llandysul, 1975), Dirgelwch yr Ogof (Llandysul, 1977) a Lleuad yn Olau (Llandysul, 1989). Roedd gan T. Llew Jones ddiddordeb mawr mewn gwyddbwyll. Roedd yn aelod o Undeb Gwyddbwyll Cymru, a daeth yn Is-Lywydd ar y mudiad. Rhannodd y diddordeb yma gyda'i fab iau, Iolo Ceredig Jones (g. 1947), a bu'r ddau yn cystadlu dros Gymru yn yr Olympiad Gwyddbwyll. Ei fab hynaf yw Emyr Llewelyn (g. 1941), ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg a garcharwyd ym 1963 yn sgil ffrwydriad yng Nghwm Tryweryn, Bala. Bu farw T. Llew Jones ym Mhontgarreg, Ceredigion, ar 9 Ionawr 2009.

Jones, Thomas Glyndwr.

  • Person

Ganwyd y Parch. Thomas Glyndwr Jones (1914-1985) ym Machynlleth, sir Drefaldwyn. Graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1935, a Choleg Bala-Bangor yn 1937. Bu'n weinidog ar eglwysi'r Annibynwyr yn Nowlais, Morgannwg, 1939-1950, Rhyl, sir y Fflint, 1950-1959, ac yn Rhiwbeina, Caerdydd, 1959-1979, Priododd Annie D. Williams, BA, yn 1941, a chawsant fab a merch. Enillodd wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938 am ei 'Llyfryddiaeth Baledi Cymraeg a Gyhoeddwyd yn y 19eg ganrif' ac yn 1960 am ei draethawd 'Cenhadon Cymreig Amlwg y Ganrif Hon.

Canlyniadau 1581 i 1600 o 57622