Dangos 57624 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Jones, Dewi Stephen, 1940-

  • nb2005012672

Yr oedd Dewi Stephen Jones yn fardd a beirniad a oedd yn hanu o’r Ponciau, Rhosllannerchrugog, ac yn fab i Stephen a Lottie Jones. Ganwyd ef yn 1940. Enillodd Wobr Griffith John Williams yn 1995 am ei gyfrol o farddoniaeth Hen ddawns (1993). Lluniodd ddwy astudiaeth ar farddoniaeth Bobi Jones yn y gyfres Llên y Llenor ac roedd yn cyfrannu’n gyson i gylchgrawn Barddas ac eraill. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o farddoniaeth Ffynhonau uchel yn 2012. Bu farw ar 14 Ionawr 2019.

Jones, Dan, 1900-1973.

  • Person

Bu'r Parch. Dan Jones (1900-1973) yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Abergorlech, sir Gaerfyrddin, ym Maesteg, Morgannwg, ac yn Llangybi a Llanddewi Brefi, sir Aberteifi.

Canlyniadau 1561 i 1580 o 57624