Dangos 57622 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Jones, Iorwerth, 1913-1992

  • Person

Yr oedd y Parch. Iorwerth Jones (1913-1992) yn weinidog Eglwys Annibynnol Pant-teg, Ystalyfera, 1938-1959, a Chapel Als, Llanelli, 1959-1979. Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg, 1975-1985, a golygydd y cyhoeddiadau enwadol Y Dysgedydd, Porfeydd ac Y Tyst.

Jones, Islwyn, 1931-2015

  • nb 99114322

Yr oedd Islwyn Jones neu Gus Jones fel yr oedd yn cael ei adnabod yn aml iawn yn fardd, beirniad, darlledwr a darlithydd. Fe'i ganwyd ym Mrynaman ar 5 Chwefror 1931 a bu'n dysgu yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Y Barri am bum mlynedd ar hugain. Bu farw ar 19 Ebrill 2015.

Jones, J. Edryd (John Edryd), 1876-1965

  • Person

Bu'r Parch. J. Edryd Jones (1876-1965) yn weinidog Bethlehem Capel yr Annibynwyr Cymraeg, Rhosllannerchrugog, sir Ddinbych, o 1922 hyd 1964.

Jones, J. T. (John Tudor), 1904-1985

  • no2007091422
  • Person

Yr oedd John Eilian yn brifardd a newyddiadurwr ac yn sefydlydd Y Cymro a’r Ford Gron. Ganwyd John Tudor Jones ar 29 Tachwedd 1903 yn Llaneilian, Ynys Môn, ond nodir ei flwyddyn geni fel 1904 mewn ffynonellau printiedig ac ar y plac ar ei gartref ym Mhenylan, Pen-sarn, Ynys Môn, a ddadorchuddiwyd yn 2004. Newidiodd ei enw canol yn gyfreithiol o 'Thomas' i 'Tudor' yn y 1930au. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Dechreuodd weithio fel gohebydd i’r Western Mail yn 1924. Golygodd gyfres o ugain o lyfrynnau o glasuron Cymraeg Y Ford Gron, 1931-1932 . Bu'n bennaeth hefyd ar raglenni’r BBC yng Nghaerdydd. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1947 a’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949. Cyfieithodd nofelau i blant a geiriau caneuon o’r Saesneg i'r Gymraeg a gyhoeddwyd gan W. S. Gwynn Williams. Yr oedd yn aelod o Gomisiwn Brenhinol ar y Wasg, 1974-1977.

Canlyniadau 1481 i 1500 o 57622