Dangos 57622 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Jones, J. Edryd (John Edryd), 1876-1965

  • Person

Bu'r Parch. J. Edryd Jones (1876-1965) yn weinidog Bethlehem Capel yr Annibynwyr Cymraeg, Rhosllannerchrugog, sir Ddinbych, o 1922 hyd 1964.

Jones, Islwyn, 1931-2015

  • nb 99114322

Yr oedd Islwyn Jones neu Gus Jones fel yr oedd yn cael ei adnabod yn aml iawn yn fardd, beirniad, darlledwr a darlithydd. Fe'i ganwyd ym Mrynaman ar 5 Chwefror 1931 a bu'n dysgu yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Y Barri am bum mlynedd ar hugain. Bu farw ar 19 Ebrill 2015.

Jones, Iorwerth, 1913-1992

  • Person

Yr oedd y Parch. Iorwerth Jones (1913-1992) yn weinidog Eglwys Annibynnol Pant-teg, Ystalyfera, 1938-1959, a Chapel Als, Llanelli, 1959-1979. Bu'n Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Yr Annibynwyr Cymraeg, 1975-1985, a golygydd y cyhoeddiadau enwadol Y Dysgedydd, Porfeydd ac Y Tyst.

Jones, Iorwerth Hughes, 1902-1972

  • Person

Ganwyd Dr Iorwerth Hughes Jones yn 1902 yn fab hynaf i'r Parch. William Glasnant Jones. Addysgwyd ef yn Ysgol Sir Tre-gŵyr. Wedi iddo gymhwyso fel meddyg yn 1925 aeth i weithio fel meddyg preswyl yn Ysbyty Charing Cross, Llundain, cyn dychwelyd i Abertawe i ymgymryd â swydd fel meddyg teulu. Roedd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Abertawe rhwng 1947 a 1961, ac yn aelod o Blaid Cymru. Yn ystod y rhyfel roedd yn anesthetydd cynorthwyol yn Ysbyty Cyffredinol Abertawe. Roedd yn frwd dros achosion Cymreig - arweiniodd yr ymgyrch dros gael ysgolion Cymraeg yn Abertawe, roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1964, a bu'n Gadeirydd Urdd Gobaith Cymru, [c.1954]-1957. Ymddiddorai mewn hanes, roedd yn aelod o'r 'Royal Institution' a'r 'Gower Society', yn llywydd Cymdeithas Dunvant am gyfnodau, yn is-lywydd Cymdeithas Gŵyr, ac yn aelod o'r Cymmrodorion a Chymmrodorion Abertawe. Roedd ganddo ddiddordeb hefyd mewn celfyddyd ac roedd yn aelod o bwyllgor Galeri Glynn Vivian. Bu farw ar 26 Awst 1972.

Canlyniadau 1461 i 1480 o 57622