Dangos 57620 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Jones, Idwal, 1895-1937

  • no2007032189
  • Person

Yr oedd Idwal Jones (1895-1937) yn athro ysgol, digrifwr, bardd a dramodydd. Fe'i ganwyd ac addysgwyd yn Llanbedr Pont Steffan, yn yr ysgol elfennol, 1900-1908, a Choleg Dewi Sant, 1909-1911. Ar ôl gwasanaethu yn Affrica yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Saesneg yn 1922. Wedi hynny bu'n athro ym Mhont ar fynach, Ceredigion, ac yn yr Adran Efrydiau Allanol yn Aberystwyth, 1928-1932. Ysgrifennodd ddramâu a sioeau cerdd gan gynnwys Gwrid y Wawr (1921), P'un (1927), Tibit y Popty (1927) and Yr Anfarwol Ifan Harris (1928), a sgriptiau radio i'r BBC. Cyfrannodd at amrywiol gylchgronau a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi a pharodïau: Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill (Llandysul, 1934) a Cerddi Digri Newydd a Phethau o'r Fath (Llandysul, 1937). Bu farw 18 Mai 1937. Cyhoeddodd D. Gwenallt Jones cofiant iddo, Cofiant Idwal Jones (Aberystwyth).

Jones, Iorwerth Hughes, 1902-1972

  • Person

Ganwyd Dr Iorwerth Hughes Jones yn 1902 yn fab hynaf i'r Parch. William Glasnant Jones. Addysgwyd ef yn Ysgol Sir Tre-gŵyr. Wedi iddo gymhwyso fel meddyg yn 1925 aeth i weithio fel meddyg preswyl yn Ysbyty Charing Cross, Llundain, cyn dychwelyd i Abertawe i ymgymryd â swydd fel meddyg teulu. Roedd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Abertawe rhwng 1947 a 1961, ac yn aelod o Blaid Cymru. Yn ystod y rhyfel roedd yn anesthetydd cynorthwyol yn Ysbyty Cyffredinol Abertawe. Roedd yn frwd dros achosion Cymreig - arweiniodd yr ymgyrch dros gael ysgolion Cymraeg yn Abertawe, roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1964, a bu'n Gadeirydd Urdd Gobaith Cymru, [c.1954]-1957. Ymddiddorai mewn hanes, roedd yn aelod o'r 'Royal Institution' a'r 'Gower Society', yn llywydd Cymdeithas Dunvant am gyfnodau, yn is-lywydd Cymdeithas Gŵyr, ac yn aelod o'r Cymmrodorion a Chymmrodorion Abertawe. Roedd ganddo ddiddordeb hefyd mewn celfyddyd ac roedd yn aelod o bwyllgor Galeri Glynn Vivian. Bu farw ar 26 Awst 1972.

Canlyniadau 1461 i 1480 o 57620