Dangos 57622 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Jones, Jac, d. 1996

  • Person

Yr oedd Jac Jones (m. 1996), llenor, yn byw yng Ngwauncaegurwen, sir Gaerfyrddin, a bu'n perfformio mewn nifer o'r dramâu a ysgrifennwyd ganddo ar gyfer Cwmni Drama Cawdor y bu ef yn ysgrifennydd iddo, yng Ngarnant, sir Gaerfyrddin.

Jones, J. W. (John William), 1883-1954

  • no2005089756
  • Person

Yr oedd John William Jones (1883-1945) yn awdur, bardd gwerin, cyhoeddwr a chasglwr. Ganwyd yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, sir Feirionnydd, ar 5 Mawrth 1883, yn fab i David Jones (?1848-1922), saer a oedd yn barddoni dan yr enw 'Glan Barlwyd'. Mynychodd Ysgol Gynradd Glan-y-pwll ac Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog. Aeth i weithio yn chwarel Oakley, Blaenau Ffestiniog, yn bedair ar ddeg oed, a bu yno am 53 mlynedd. Fel bardd, cyfrannai'n gyson i amryw o bapurau wythnosol Gymraeg a chyfnodolion. O 1940 ymlaen cyfrannodd golofn wythnosol boblogaidd o'r enw 'Y Fainc Sglodion' i'r Cymro. Golygodd a chyhoeddodd waith beirdd eraill oedd yn gysylltiedig â Blaenau Ffestiniog gan gynnwys: Ap Alun Mabon, Gwrid y Machlud (Blaenau Ffestiniog, 1941), Ioan Brothen, Llinell neu Ddwy (Blaenau Ffestiniog, 1942), Gwilym Deudraeth, Yr Awen Barod (Llandysul, 1943), Rolant Wyn, Dwr y Ffynnon (Blaenau Ffestiniog, 1949), a Caneuon R. R. Morris (Lerpwl, 1951).

Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986.

  • Person

Yr oedd John Tysul Jones (1902-1986), o Landysul, Ceredigion, yn brifathro ysgol. Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Llandysul, graddiodd mewn Cymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1923, a derbyniodd MA yn 1959. Ymysg ei gyfeillion yn Aberystwyth yr oedd Waldo Williams (1904-1971) ac Idwal Jones (1895-1937). Bu'n athro Cymraeg ym Merthyr Tudful, sir Forgannwg, ac yn Abertawe, yn bennaeth adran yn Llandysul, ac yna'n brifathro Ysgol Uwchradd Fodern Henllan ac Ysgol Uwchradd Castell Newydd Emlyn, sir Gaerfyrddin, [1957]-1967. Priododd Mair Harford Evans o sir Gaerfyrddin, a chawsant un ferch. Bu farw ym Mai 1986. Bu'n olygydd y gyfrol flynyddol, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau (Llandysul, [1969]-[1976], a chyfrol o erthyglau'r Athro Evan James Williams (Llandysul,1971). Ef oedd golygydd Ar Fanc Sion Cwilt (Llandysul,1972) gan Sarnicol (perthynas iddo). Yr oedd Thomas Jacob Thomas (Sarnicol,1873-1945) yn athro ysgol, awdur a bardd.

Jones, J. T. (John Tudor), 1904-1985

  • no2007091422
  • Person

Yr oedd John Eilian yn brifardd a newyddiadurwr ac yn sefydlydd Y Cymro a’r Ford Gron. Ganwyd John Tudor Jones ar 29 Tachwedd 1903 yn Llaneilian, Ynys Môn, ond nodir ei flwyddyn geni fel 1904 mewn ffynonellau printiedig ac ar y plac ar ei gartref ym Mhenylan, Pen-sarn, Ynys Môn, a ddadorchuddiwyd yn 2004. Newidiodd ei enw canol yn gyfreithiol o 'Thomas' i 'Tudor' yn y 1930au. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Dechreuodd weithio fel gohebydd i’r Western Mail yn 1924. Golygodd gyfres o ugain o lyfrynnau o glasuron Cymraeg Y Ford Gron, 1931-1932 . Bu'n bennaeth hefyd ar raglenni’r BBC yng Nghaerdydd. Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn yn 1947 a’r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949. Cyfieithodd nofelau i blant a geiriau caneuon o’r Saesneg i'r Gymraeg a gyhoeddwyd gan W. S. Gwynn Williams. Yr oedd yn aelod o Gomisiwn Brenhinol ar y Wasg, 1974-1977.

Canlyniadau 1441 i 1460 o 57622