Dangos 57616 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Jones, Francis Wynn, 1898-1970

  • Person

Yr oedd Francis Wynn Jones (1898-1970) yn ystadegydd a llenor.

Fe'i ganed yn Branas Lodge, Llandrillo, Sir Feirionnydd, ar 15 Ionawr 1898, yn ail fab i Thomas Francis a Catherine (née Edwards) Jones. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Y Bala ond yn un ar bymtheg oed symudodd i Lundain i weithio fel clerc gyda'r Swyddfa Bost cyn ymuno â'r fyddin yn 1916. Diflannodd ym mis Mawrth 1918 ond yn ddiweddarach cafwyd hyd iddo yn garcharor rhyfel. Aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio gyda dosbarth cyntaf mewn economeg yn 1923. Bu'n gweithio i'r Mudiad Cynilo Cenedlaethol yng ngogledd Cymru nes y'i penodwyd yn ystadegydd yn y Weinyddiaeth Lafur yn Lundain.

Yr oedd yn ffigwr allweddol ym mywyd crefyddol a diwylliannol Llundain a bu'n Is-Lywydd y Cymmrodorion. Yn 1957 rhoddwyd OBE iddo. Wedi iddo ymddeol o'r gwasanaeth sifil symudodd i Aberystwyth yn 1959 i fyw yn Willow Lawn, hen gartref T. Gwynn Jones. Bu'n drysorydd ac Is-Lywydd Urdd Gobaith Cymru, aelod o Lys a Chyngor Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn flaenor yn Eglwys Seilo, Aberystwyth. Yn 1962, derbyniodd wahoddiad i ysgrifennu hanes yr eglwys a chyhoeddwyd Canmlwydd Siloh Aberystwyth.

Cyfrannodd sawl erthygl i gyfnodolion fel Y Traethodydd, Y Ford Gron a Y Genhinen yn ogystal â chyhoeddiadau swyddogol yn rhinwedd ei swydd fel ystadegydd. Yr oedd wedi bwriadu cyhoeddi llyfryddiaeth gyflawn o holl weithiau T. Gwynn Jones ar achlysur canmlwyddiant ei eni yn 1971, ond yn anffodus bu farw cyn cwblhau'r gwaith. Bu wrthi'n ymchwilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell y Brifysgol ym Mangor a'r Amgueddfa Brydeinig. Cyhoeddwyd Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1981 dan olygyddiaeth D. Hywel E. Roberts a chyflwynwyd y gyfrol 'i gydnabod ei gyfraniad iddi'.

Priododd Eluned, merch T. Gwynn Jones, yn 1926, a ganwyd mab a merch iddynt, Emrys a Nia. Bu farw F. Wynn Jones yn Aberystwyth ar 21 Rhagfyr 1970.

Jones, Frank Price, 1920-1975.

  • Person

Yr oedd Frank Price Jones (1920-1975) yn ddarlithydd hŷn yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yn adnabyddus fel hanesydd, darlledwr a chyfrannwr cyson i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg.

Jones, Frank, 1913-1970

  • Person

Yr oedd Frank Jones (1913-1970) o Dal-y-bont. Llanrwst, sir Gaernarfon, yn genedlaetholwr a gwas sifil.

Jones, Gerallt, 1907-1984

  • Person

Ganwyd y Parch. Gerallt Jones (1907-1984), bardd a llenor, yn Rhymni, sir Fynwy. Yr oedd ei dad, Y Parch. Fred Jones (1877-1948), yn fab i Jeremiah Jones (1855-1902), gŵr yr oedd cymaint o'i ddisgynyddion gwrywaidd yn meddu ar gryn dalent lenyddol; fe'u hadnabuwyd ar y cyd fel 'Bois y Cilie' ar ôl fferm y teulu ger Llangrannog, sir Aberteifi. Yr oedd Gerallt Jones yn weinidog gyda'r Annibynwyr, a golygodd farddoniaeth ei dad a'i daid, yn ogystal â barddoniaeth a rhyddiaith ei ewythr Samuel Bartholomew Jones (1894-1966) a'i gefnder Fred Williams (1907-1972). Ymhlith ei waith ei hun yr oedd cyfieithiad Cymraeg o'r Greadigaeth gan Handel (1952), a chyfrol o farddoniaeth Ystâd Bardd (1974), astudiaeth o Sarah Jane Rees ('Cranogwen', 1839-1916) (1974), a chyfrol o ysgrifau er cof am ei frawd Jac Alun Jones (1974). Un arall o'i frodyr oedd y bardd Dafydd Isfoel Jones (1881-1968), ac mae'r canwr a'r bardd Dafydd Iwan (1943- ) yn un o'i feibion.

Canlyniadau 1421 i 1440 o 57616