Dangos 57634 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn).

  • Person

Golygydd, ysgrifwr a beirniad llenyddol oedd D. Tecwyn Lloyd. Fe'i ganwyd ar Fferm Penybryn, Glanrafon, ger Y Bala, ar 22 Hydref 1914 yn fab i John a Laura Lloyd. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a graddiodd yn y Gymraeg yn 1937 wedi iddo fynychu Ysgol y Cyngor Glanrafon (Llawrybetws) ac Ysgol Tŷ Tan Domen, Y Bala. Dilynodd gwrs Ymarfer Dysgu a gadael Bangor yn 1938. Yn 1955 priododd Frances Killen a bu hi farw yn 1980. Yn 1984 priododd Gwyneth Owen.

Bu'n gweithio gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, 1938-1946, ac wedi hynny fel darlithydd a llyfrgellydd yng Ngholeg Harlech, 1946-1955. Bu'n gyfarwyddwr Cwmni Hughes a'i Fab, Wrecsam ac yn is-olygydd Y Cymro, 1956-1961. Yn 1961 derbyniodd radd MA Prifysgol Lerpwl ac fe'i penodwyd yn aelod o staff Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Cymru Aberystwyth a symudodd i fyw i ardal Caerfyrddin. Yn 1980 dychwelodd i'w hen ardal, i Maes yr Onnen, Maerdy, Corwen, gan deithio i'r de yn wythnosol gyda'i waith nes iddo ymddeol yn 1982.

Ef oedd golygydd y cylchgrawn Taliesin o 1965 hyd 1987. Cyhoeddodd ddau gasgliad o storïau byrion gan ddefnyddio'i ffugenw E. H. Francis Thomas. Yn 1990 derbyniodd radd Doethur mewn Llenyddiaeth gan Brifysgol Cymru am ei gofiant i Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn 1988. Yn yr un flwyddyn fe'i derbyniwyd yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu farw 22 Awst 1992.

Lleyn

Llewellyn, Llewellyn, 1843-1927

  • Person

Siopwr a hanesydd lleol oedd Llewellyn Llewellyn, (Llywelyn ddu o Lan Tawe) a anwyd yn 1843. Roedd yn berchennog siop groser yn Brynhyfryd, Abertawe. Roedd Llewellyn Llewellyn yn ffigwr amlwg yn niwylliant yr ardal ac yn ysgrifennu i'r papurau lleol. Roedd hefyd yn hynafiaethwr, hanesydd lleol a chasglwr llyfrau a chylchgronau Cymraeg. Bu'n aelod o Orsedd Ynysoedd Prydain, ac yn 1907 bu'n ymgeisydd yn etholiadau'r 'Swansea Guardians'.

Canlyniadau 1221 i 1240 o 57634