Dangos 57616 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Hughes, Blodwen, of Penygroes.

  • Person

Sefydlwyd Pwyllgor Cofeb R. Williams Parry er mwyn codi arian i goffáu Robert Williams Parry (1884-1956) y bardd a darlithydd prifysgol. Lansiwyd apêl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ebrill 1961. Miss Blodwen Hughes o Benygroes, sir Gaernarfon, oedd cyd-ysgrifennydd y Pwyllgor.

Hughes, D. G. Lloyd.

  • Person

Ganwyd a magwyd Dafydd Glyn Hughes (g. 1921) ym Mhwllheli, sir Gaernarfon. Mynychodd Ddosbarth y Babanod ac Ysgol Elfennol Troed-yr-allt ac Ysgol y Sir, Pwllheli. Treuliodd ei yrfa yn y Gwasanaeth Sifil, yn Llundain i gychwyn, ond hefyd mewn gwahanol ardaloedd ar draws Cymru a Lloegr. Bu'n byw yn Aberystwyth, Ceredigion, 1960-1966, a symudodd i Ben-bre, sir Gaerfyrddin, yn 1966, ac yna i New Inn, Pencader, Dyfed, ym 1985. Cynhyrchodd lawer o lyfrau ac erthyglau ar hanes lleol Pwllheli, ardal Llanelli a New Inn, ysgrifennodd ar gyfer Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Y Casglwr, Llanw Llyn, Llafar Gwlad, Barn, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chyfrannu erthyglau i gyfrolau Cyfres y Cymoedd ar Gwm Aman (Llandysul, 1996) a Merthyr a Thaf (Llandysul, 2001).

Canlyniadau 1201 i 1220 o 57616