Dangos 57616 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Gwr Mwyn

  • Person

Gwydderig, 1842-1917.

  • Person

Ganwyd Richard Williams (Gwydderig, 1842-1917), bardd, ym Mrynaman, sir Gaerfyrddin. Aeth i weithio fel glöwr yn ifanc, yn dilyn marwolaeth ei dad, a chyflwynodd farddoniaeth i Y Gwladgarwr yn y cyfnod pan oedd William Williams (Caledfryn, 1801-1869) yn olygydd y golofn farddol. Ar ôl gweithio ym Mhennsylvania, UDA, am gyfnod, dychwelodd Gwydderig i Frynaman, a dechreuodd ei gerddi ennill gwobrau mewn eisteddfodau. Ei arbenigedd oedd yr englyn, a daeth yn adnabyddus yn y cylchoedd barddol fel 'Bardd yr englyn'. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn J.Lloyd Thomas (gol.), Detholion o waith Gwydderig (Llandybïe,1959). Yr oedd ei frawd Benjamin hefyd yn fardd.

Gwyl Geltaidd Aberystwyth.

  • Corporate body

Cynhaliwyd Gŵyl Geltaidd flynyddol Aberystwyth am y tro cyntaf yn Chwefror 1979.

Gwynfor, 1875-1941

  • no2007102278
  • Person

Ganwyd Thomas Owen Jones (Gwynfor, 1875-1941), dramodydd, ym Mhwllheli, sir Gaernarfon. Aeth yn brentis i groser yn bymtheg oed, a symudodd i Gaernarfon yn 1893, lle agorodd ei siop gigydd ei hun ymhen amser. Yn ei oriau hamdden bu Gwynfor yn cynorthwyo Beriah Gwynfe Evans (1848-1927) gyda hyrwyddo drama yng Nghaernarfon, a daeth ef ei hun yn actor a dramodydd medrus. Sefydlodd Cwmni Theatr y Ddraig Goch yn 1900, a bu'n gyfarwyddwr iddo tan 1935, a dyma'r cwmni a berfformiodd y ddrama Gymraeg gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yng Nghaernarfon yn 1906. Enillodd Gwynfor ei hun nifer o gystadlaethau drama mewn eisteddfodau, a bu'n feirniad cenedlaethol o 1924 ymlaen. Datblygodd ddiddordeb dwfn mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Cymraeg o bob math, yn enwedig hynny'n ymwneud â'r môr, gan gasglu storiâu a gwybodaeth gan hen forwyr Pwllheli a Chaernarfon, yn ogystal â chan faledwyr sir Gaernarfon. Yn 1917 cafodd Gwynfor ei benodi'n Llyfrgellydd Sirol cyntaf sir Gaernarfon, yn gyfrifol am ddosbarthu llyfrau trwy ysgolion a phentrefi gwledig y sir. Priododd Margery Winifred ('Madge') Jones, aelod o Gwmni Drama'r Ddraig Goch, yn 1922, a bu'n byw yng Nghaernarfon hyd ei farwolaeth yn 1941.

Canlyniadau 1121 i 1140 o 57616