Dangos 57615 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Morgan, William Thomas, 1844-1917

  • Person

Cyfrannodd William Thomas Morgan('Gwilym Alaw',(1844-1917), bardd, o'r Rhigos, Morgannwg, lawer darn o farddoniaeth a rhyddiaith i eisteddfodau lleol, ac yr oedd hefyd yn casglu llenyddiaeth greadigol a ffynonellau deunydd crai yn ymwneud ag ardal y Rhigos.

Morgan, T. J.

  • Person

Ysgrifwr ac ysgolhaig oedd Thomas John Morgan. Fe'i ganed yn Y Glais, Abertawe yn 1907. Aeth i Goleg Prifysgol Abertawe a Choleg Prifysgol Dulyn cyn cael swydd fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Caerdydd, a threulio cyfnod fel gwas sifil yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Treuliodd ddeng mlynedd yn Gofrestrydd Prifysgol Cymru, o 1951 hyd 1961 pan benodwyd ef yn Athro'r Gymraeg yn Abertawe. Yn 1946 penodwyd T. J. Morgan yn gyd-olygydd Y Llenor, ac ef a olygodd y rhifyn olaf sef rhifyn coffa i W. J. Gruffydd, golygydd gwreiddiol Y Llenor, yn 1955. Cyhoeddodd a chyflwynodd nifer o weithiau ysgolheigaidd yn ogystal. Bu farw yn 1986.

Morgan, Mihangel

Ganwyd Mihangel Morgan yn Aberdâr yn 1955. Mae’n llenor, yn fardd ac yn ysgolhaig. Astudiodd am radd Prifysgol Agored ac enillodd radd doethur am ei ymchwil ar John Gwilym Jones yn 1996 a bu’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Enillodd y fedal ryddiaith am ei nofel Dirgel ddyn yn Eisteddfod Genedlaethol De Powys a gynhaliwyd yn Llanelwedd yn 1993.

Canlyniadau 1081 i 1100 o 57615