Dangos 57622 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Griffiths, Gilmor, 1917-1985.

  • Person
  • 1917-1985.

Fe oedd Gilmor Griffiths yn fwyaf adnabyddus fel athro cerdd yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, 1956-1982, fel arweinydd, cyfansoddwr a threfnydd cerddoriaeth. Ganwyd ef ar y 7fed o Fedi 1917, ym Mhonciau, ger Wrecsam, i Thomas ac Elizabeth Griffiths. Roedd ganddo un chwaer, Gwyneth. Addysgwyd yn ysgol y pentref sef Ysgol y Ponciau ac yna Ysgol Ramadeg Rhiwabon. Mynychodd Coleg Normal Bangor, 1936-1939 lle cafodd ei hyfforddi i fod yn athro. Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd ei yrfa fel athro cerdd yn Ysgol Grango, Rhos, 1946-1956. Yn 1956 cafodd ei benodi gan Dr Haydn Williams (Cyfarwyddwr Addysg Sir y Fflint), fel Pennaeth Cerddoriaeth a Meistr y Côr yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Yno y bu nes iddo ymddeol yn 1982. Priododd ei wraig gyntaf Elizabeth Davies (Beti), yn Rhagfyr 1942, yng Nghapel Seion, Ponciau, Rhosllannerchrugog. Roedd ganddynt dair merch, Jennifer, Sian a Bethan. Priododd â'i ail wraig, Vera Williams, athrawes ysgol, yn y Llithfaen, ym mis Hydref 1975 ac yna’n ymgartrefi yn Henllan. Roedd yn ymroi’n fawr i'w gerddoriaeth. Roedd yn bwysig iddo fod pob plentyn yn cael cyfle i ddarganfod eu doniau cerddorol. Cyfansoddwyd, addaswyd a threfnwyd nifer o weithiau yn arbennig i blant ysgol. Yr oedd yn feirniad a chyfeilydd mewn eisteddfodau, ac yn chwarae organ yn yr eglwys. Ymysg ei waith gwelir darnau unawd, côr, bandiau pres, cerddorfa, telynau, alawon gwerin ac emynau. Mae yna ddylanwad crefydd ar lawer o waith Gilmor Griffiths. Byddai'n cyfansoddi, ysgrifennu, addasu neu drefnu nifer o emynau a charolau Nadolig. Perfformiwyd llawer ohonynt gan Gôr Ysgol Glan Clwyd yng nghyngherddau’r ysgol, yn enwedig cyngherddau’r Nadolig yng Nghadeirlan Llanelwy. O dan ei arweiniad recordiwyd dau albwm gan y côr, sef 'Ganwyd Crist i'r Byd' yn 1975 a 'Nos Nadolig Yw' yn 1981; y ddau wedi'u rhyddhau ar label Sain (Recordiau). Byddai ei gariad at dymor yr ŵyl yn ennill y llysenw 'Mr Christmas' iddo. Roedd Gilmor yn aelod gweithgar o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac yn Llywydd a Chadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ble oedd hefyd yn olygydd cerddorol Allwedd y Tannau. Roedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r gerddoriaeth ar gyfer y Gwleddoedd Canoloesol a gynhaliwyd yng Nghastell Rhuthun ac yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Opera’r Rhyl. Mae ei weithiau cyhoeddedig yn cynnwys: Caneuon Newydd i Ysgolion, Cyf. III. Hughes a’i Fab, Wrexham, 1960; Gilmora : 15 o alawon cerdd dant. Y Lolfa, 1984; Hwyl ar y gân: 7 o ganeuon i blant. Y Lolfa 1984; Y pren afalau : unawd / geiriau I. D. Hooson. Y Lolfa 1984; Breuddwydion : unawd / geiriau I. D. Hooson. Y Lolfa 1984; Carolau Gilmor. Y Lolfa 1991; Gwylanod [geiriau] H. D. Healy. Y Lolfa 2010; Ave Maria : yn A♭ fwyaf; [geiriau Rhydwen Williams]. Y Lolfa, 2014; Lliwiau'r hydref; [geiriau] Dorothy Jones. Y Lolfa 2014. Bu farw Gilmor Griffiths ar 11 Gorffennaf 1985 yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, yr oedd yn 67 mlwydd oed. Claddwyd yn y Llithfaen ger Pwllheli, 17 Gorffennaf 1985.

Griffiths, John Gwyn.

  • Person

Yr oedd John Gwyn(edd) Griffiths (1911-2004) yn fardd, beirniad, golygydd ac ysgolhaig. Fe'i ganwyd yn Y Porth, Y Rhondda, 7 Rhagfyr 1911, yn fab i'r Parchedig Robert Griffiths, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Eglwys Moreia, a'i wraig Mima. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bechgyn, yn Y Porth, graddiodd mewn Lladin a Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a'i addysgu ym Mhrifysgolion Cymru, Lerpwl a Rhydychen. Priododd Kate Bosse yn 1939 a ganwyd dau fab iddynt yn ddiweddarach, Robat a Heini. Sefydlodd Gylch Cadwgan yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'i briod Kate Bosse-Griffiths yn eu cartref yn Y Porth. Bu'n athro ysgol yn ei hen ysgol yn Y Porth, 1939-1943, ac yn athro Lladin yn Ysgol Ramadeg Y Bala, 1943-1946, cyn cael ei benodi'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 1947. Rhwng 1965 a 1966 bu'n ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Cairo. Bu'n gyd-olygydd cylchgrawn Y Fflam gydag Euros Bowen a Pennar Davies ac yn olygydd Y Ddraig Goch hefyd, 1948-1952. Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi hefyd. Bu'n olygydd cyfres yr Academi Gymreig o drosiadau Cymraeg o weithiau rhyddiaith rhwng 1979 a 1995. Bu’n ysgrifennydd a llywydd Adran Glasurol Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru. Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiadau lleol a seneddol. Bu farw 15 Mehefin 2004.

Canlyniadau 1061 i 1080 o 57622