Dangos 57637 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Evans, D. R. (David Richard), d. 1984

  • Person

Aeth David Richard Evans (?-1984) o Fangor, Sir Gaernarfon, i'r môr yn ifanc, a chasglodd hefyd deunydd yn ymwneud â'i dad yng nghyfraith, Hugh H. Jones, swyddog yn chwarel Dinorwig.

Evans, Emlyn, 1923-

  • no2004110175
  • Person

Yr oedd Emlyn Evans yn rheolwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965, a Gwasg Gee, Dinbych, 1978-2001. Fe’i ganwyd ar 4 Rhagfyr 1923 yn y Carneddi, Bethesda. Mynychodd Goleg y Brifysgol, Bangor gan ddilyn cwrs gradd mewn Peirianwaith Trydan, Ffiseg a Mathemateg Bur. Priododd Eileen Morley Jones yn Llundain yn 1947 a ganwyd dau o blant iddynt Dafydd a Morfudd. Sefydlodd Gymdeithas Llyfrau Cymraeg Llundain ac ef oedd yr ysgrifennydd, 1953-1957. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Barn a bu’n olygydd am y ddwy flynedd gyntaf (1962-64). Bu’n athro economeg a mathemateg hefyd yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, 1965-1978. Cyhoeddodd hunangofiant O’r niwl a’r anialwch yn 1991 a chyfres o erthyglau, Rhwng cyfnos a gwawr, yn 2012. Bu farw Emlyn Evans ar 13 Tachwedd 2014.

Canlyniadau 901 i 920 o 57637