Dangos 57637 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Parry, Winnie, 1870-1953.

  • Person

Yr oedd Sarah Winifred (Winnie) Parry (1870-1953) yn awdures a golygydd. Fe'i ganed yn y Trallwng, yn ferch i Hugh Thomas a Margaret Parry. Bu'n byw gyda'i mam yn Croydon tan i honno farw yn 1876, ac yna gyda'i thaid, John Roberts (marw 1903) yn y Felinheli, sir Gaernarfon. Erbyn 1882 yr oedd ei thad yn byw yn Ne'r Affrig. Dechreuodd gyfrannu i gyfnodolion fel Cymru, Cymru'r Plant ac Y Cymro yn 1893, gan gynnwys y gyfres 'Catrin Prisiard', 1896. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n gohebu â J. Glyn Davies. Casglwyd rhai o'i chyfraniadau i gyfnodolion a'u cyhoeddi, sef Sioned (Caernarfon, 1906), Cerrig y rhyd (Caernarfon, 1907) a Y ddau hogyn rheiny (Llundain: Storfa Gymreig cwmni Foyle, 1928). Yn 1908 ymunodd â'i thad oedd wedi dychwelyd i Croydon, a bu'n gweithio fel ysgrifenyddes yno. Rhwng 1908 a 1912 bu'n olygydd Cymru'r Plant. Bu Mrs Dora Davies yn ymdrin ag ychydig ohebiaeth fywgraffyddol ar ôl marwolaeth Winnie Parry.

Parry, Robert Williams

  • n 82165695
  • Person
  • 1884-1956

Yr oedd Robert William Parry (1884-1956), bardd a darlithydd o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle. sir Gaernarfon, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn symud i Fangor ac astudio dan John Morris-Jones, gan raddio yn 1908. Yn 1910 enillodd ei awdl 'Yr Haf' Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn. Bu'n athro yn y Barri, Morgannwg, ac wedyn yng Nghaerdydd. Rhwng 1916 a 1918 bu'n gwasanaethu yn y fyddin; ysbrydolwyd ef i lunio llawer soned ynghyd â'i englynion er cof am Hedd Wyn yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1922 cafodd ei benodi yn ddarlithydd ym Mangor, sir Gaernarfon, a symudodd i Fethesda, sir Gaernarfon. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o gerddi, 'Yr Haf a Cherddi eraill', yn 1924, gan sicrhau iddo'r bri o fod yn fardd mawr. Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o gerddi, 'Cerddi'r Gaeaf' yn 1952. Priododd Myfanwy Williams Parry (1898-1971) yn 1923.

Parry, Owen, of Llanegryn.

  • Person

Hynafiaethydd o Lanegryn, sir Feirionnydd oedd Owen Parry, a gasglodd fel rhan o'i lyfrgell bapurau William John Roberts, 'Gwilym Cowlyd' (1827-1904), bardd ac argraffydd.

Canlyniadau 881 i 900 o 57637