Dangos 57637 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Peate, George H. (George Howard), 1869-1938

  • Person

Roedd George Howard Peate (1869-1938) yn dad i Iorwerth Peate. Bu'n brentis gyda'i dad cyn symud i Lundain yn 1892, ond dychwelodd i weithio fel saer ac adeiladydd ym mhlwyf Llanbryn-mair pan drawyd ei dad yn wael. Gyda'r dirywiad yn y galw am waith crefftwyr cafodd swydd fel swyddog presenoldeb plant ysgol. Roedd yn ddyn amryddawn; dilynodd ei dad yn ohebydd i'r Faner, gallai ysgrifennu â llaw fer, ac ymddiddorai mewn ffotograffiaeth a chadw gwenyn. Priododd ag Elizabeth Thomas (1872-1948) yn 1897, a chawsant dri o blant: Dafydd Morgan, Iorwerth Cyfeiliog a Morfudd Ann Mary Peate.

Peate, David, 1831-1896.

  • Person

Roedd David Peat, neu Peate yn ddiweddarach, (1831-1896) yn daid i Iorwerth Peate. Bu'n gweithio fel saer olwynion, saer, paentiwr, gwydrwr, a phapurwr. Priododd â Mary yn 1857, a chawsant dri o feibion, John Morgan, Alexander Lewes Morgan, a George Howard. Disgrifir ef yn 'radical pybyr', ac roedd yn gyfeillgar â Samuel Roberts, Michael D. Jones a Thomas Gee.

Peate, Dafydd, 1936-1980

  • Person

Roedd Dafydd Peate (1936-1980) yn fab i Iorwerth a Nansi Peate. Priododd ag Eirlys Rees yn 1964 a ganwyd merch iddynt, Ann. Bu'n gweithio i'r BBC.

Peat, Morris

  • Person

Roedd Morris Peat (1813-1898) yn frawd i David Peat(e). Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1848, a bu'n byw ym Mhensylfania ac Iowa. Bu ei ŵyr, Maurice Pate, yn Gyfarwyddwr UNICEF.

Canlyniadau 861 i 880 o 57637