Roedd y Parch. Dr William Thomas Pennar Davies (W. T. Pennar Davies, 'Davies Aberpennar', 1911-1996) yn fardd, yn nofelydd ac yn ysgolhaig. Ganwyd yn William Thomas Davies yn Aberpennar, Morgannwg, ar 12 Tachwedd 1911, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, Colegau Balliol a Mansfield, Rhydychen, a Phrifysgol Iâl, UDA. Bu'n weinidog yr Annibynwyr yng Nghaerdydd, 1943, ac yna yn Athro yng Ngholeg Diwinyddol Bala-Bangor a Choleg Coffa Aberhonddu, ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Coffa Abertawe. Yr oedd yn Brifathro'r Coleg Coffa, 1952-1981, tan ei ymddeoliad. Cafodd ei gysylltu â grŵp o feirdd Cylch Cadwgan o 1939 ymlaen, yn ysgrifennu dan yr enw 'Davies Aberpennar', a mabwysiadodd yr enw 'Pennar' tua 1948.Priododd Rosemarie Woolf yn 1943 ac y mae Meirion Pennar yn un o'i bum plentyn. Bu farw 29 Rhagfyr 1996. Yn ogystal â chyfraniadau i Cerddi Cadwgan (Abertawe, 1953), cyhoeddodd chwe chasgliad o'i farddoniaeth yn cynnwys Cinio'r Cythraul (Dinbych, 1946), Naw Wfft (Dinbych, 1957), Yr Efrydd o Lyn Cynon (Llandybïe, 1961) a Y Tlws yn y Lotws (Llandybïe, 1971, Ymhlith ei ryddiaith yr oedd Caregl Nwyf (Llandybïe, 1966), y nofelau Meibion Darogan (Landybïe, 1968 a Mabinogi Mwys (Abertawe, 1979) a gweithiau ysgolheigaidd megis Rhwng Chwedl a Chredo (Caerdydd, 1966).