Showing 3022 results
Authority record- n 86091969
- Person
Roedd David Jenkins (1912-2002) yn bumed llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn awdur llyfrau ac erthyglau niferus ar bynciau amrywiol.
Fe'i ganwyd ar 29 Mai 1912 yn fab i Evan Jenkins a Mary (née James), Blaenclydach, Y Rhondda. Roedd ei deulu yn hanu o ardal Penrhyn-coch, Ceredigion. Derbyniodd ei addysg gynradd yn ysgolion Blaenclydach a Threfeurig a'i addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth. Mynychodd Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio yn 1936 yn y Gymraeg. Enillodd radd MA am draethawd ar fywyd a gwaith Huw Morys yn 1948. Yr un flwyddyn priododd Menna Rhys a bu iddynt ddau o blant, Nia ac Emyr.
Fe'i penodwyd yn Geidwad Cynorthwyol yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1939 cyn mynd i ymladd yn y Rhyfel hyd 1945 ac fe'i dyrchafwyd yn uwchgapten yn 1943. Ymunodd â staff Adran Llyfrau Printiedig yn 1949 ac fe'i gwnaed yn Geidwad yn 1957. Cafodd ei ddewis yn Llyfrgellydd yn 1969 gan ymddeol ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Dyfarnwyd y CBE iddo yn 1977 a DLitt Prifysgol Cymru yn 1979. Yn 1999 fe'i hurddwyd yn Gymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Cymru.
Yn 1974 derbyniodd wobr Cyngor Celfyddydau Cymru am Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973). Yr oedd ganddo ddiddordeb yn Dafydd ap Gwilym a chyhoeddwyd Bro Dafydd ap Gwilym yn 1992. Cyfrannodd erthyglau i'r Bywgraffiadur, Cydymaith i lenyddiaeth Cymru a'r Dictionary of National Biography a nifer helaeth o gylchgronau eraill megis Cylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu farw ar 6 Mawrth 2002 ac ym mis Mai 2002 cyhoeddwyd ei lyfr, A refuge in peace and war, sy'n croniclo hanes y Llyfrgell Genedlaethol hyd 1952, cyfrol y bu'n gweithio arni ers ugain mlynedd.