Showing 3024 results

Authority record

Elis-Thomas, Dafydd, 1946-

  • no2005099844
  • Person
  • 1946-2025

Ganwyd Dafydd Elis Thomas ar 18 Hydref 1946 yng Nghaerfyrddin, sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, sir Gaernarfon, ac astudiodd y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, gan raddio yn 1967. Bu'n ddarlithydd Astudiaethau Cymreig yng Ngholeg Harlech, 1971, ac yn Adran Saesneg Bangor, 1974, ac roedd hefyd yn ddarlithydd annibynnol rhan amser. Bu'n AS Plaid Cymru dros sir Feirionnydd, 1974-1983, a thros Feirionnydd Nant Conwy, 1983-1992, ac yn llywydd y blaid, 1984-1991. Yn 1987, dyfarnwyd iddo radd PhD gan Brifysgol Cymru. Yn 1992, fe'i dyrchafwyd yn Arglwydd Elis-Thomas o Nant Conwy, ac wedi hynny bu'n Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1994-1999. Yn 1999, cafodd ei ethol yn Aelod y Cynulliad dros Feirionnydd Nant Conwy yn etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yna yn Llywydd y Cynulliad. Priododd Elen M.Williams yn 1970 ac mae ganddynt dri mab. Priododd ei ail wraig, Mair Parry Jones, yn 1993.

Dyfnallt, 1873-1956.

  • Person

Yr oedd John Dyfnallt Owen (1873-1956) o Lan-giwg, Morgannwg, yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn Archdderwydd Cymru. Magwyd ef gan rieni ei dad ar ôl marwolaeth ei fam pan oedd yn flwydd oed. Ar ôl gweithio am gyfnod byr yn y lofa, aeth i Athrofa Parcyfelfed ac i Goleg Bala-Bangor. Bu'n weinidog Sardis, Pontypridd, rhwng 1905 a 1910. Yn 1907 enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol. Priododd a chawsant ddau blentyn. Daeth yn weinidog Stryd Lammas Caerfyrddin yn 1910. Yn 1916 aeth yn gaplan yn Bethune, Ffrainc, ar ran y YMCA. Un o'i ddiddordebau pennaf oedd ymchwilio i hanes achos yr Annibynwyr yng Nghymru. Daeth yn olygydd Y Tyst yn 1927, lle y cafodd rhwydd hynt i fynegi ei farn ar Gristnogaeth a heddwch. Teithiodd ar y cyfandir, gan gynnwys Gwlad Pwyl, y Swistir a Bafaria. Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, yr oedd yn Danzig pan gyhoeddodd amryw o erthyglau.

Jenkins, David, 1912-2002

  • n 86091969
  • Person

Roedd David Jenkins (1912-2002) yn bumed llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn awdur llyfrau ac erthyglau niferus ar bynciau amrywiol.

Fe'i ganwyd ar 29 Mai 1912 yn fab i Evan Jenkins a Mary (née James), Blaenclydach, Y Rhondda. Roedd ei deulu yn hanu o ardal Penrhyn-coch, Ceredigion. Derbyniodd ei addysg gynradd yn ysgolion Blaenclydach a Threfeurig a'i addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth. Mynychodd Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio yn 1936 yn y Gymraeg. Enillodd radd MA am draethawd ar fywyd a gwaith Huw Morys yn 1948. Yr un flwyddyn priododd Menna Rhys a bu iddynt ddau o blant, Nia ac Emyr.

Fe'i penodwyd yn Geidwad Cynorthwyol yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1939 cyn mynd i ymladd yn y Rhyfel hyd 1945 ac fe'i dyrchafwyd yn uwchgapten yn 1943. Ymunodd â staff Adran Llyfrau Printiedig yn 1949 ac fe'i gwnaed yn Geidwad yn 1957. Cafodd ei ddewis yn Llyfrgellydd yn 1969 gan ymddeol ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Dyfarnwyd y CBE iddo yn 1977 a DLitt Prifysgol Cymru yn 1979. Yn 1999 fe'i hurddwyd yn Gymrawd Er Anrhydedd Prifysgol Cymru.

Yn 1974 derbyniodd wobr Cyngor Celfyddydau Cymru am Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973). Yr oedd ganddo ddiddordeb yn Dafydd ap Gwilym a chyhoeddwyd Bro Dafydd ap Gwilym yn 1992. Cyfrannodd erthyglau i'r Bywgraffiadur, Cydymaith i lenyddiaeth Cymru a'r Dictionary of National Biography a nifer helaeth o gylchgronau eraill megis Cylchgrawn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu farw ar 6 Mawrth 2002 ac ym mis Mai 2002 cyhoeddwyd ei lyfr, A refuge in peace and war, sy'n croniclo hanes y Llyfrgell Genedlaethol hyd 1952, cyfrol y bu'n gweithio arni ers ugain mlynedd.

Results 3021 to 3024 of 3024