Dangos 3024 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Jones, W. R. (William Richard), Pelidros, 1877-1958

  • Person

Yr oedd y Parch. William Richard Jones ('Pelidros', 1877-1958), o Ferthyr Tudful, Morgannwg, yn weinidog y Bedyddwyr a bardd. Fe'i ganed yn 1877, yn fab i Henry a Sarah Jones. Bu'n weinidog ar nifer o eglwysi'r Bedyddwyr gan gynnwys Tabor, Aberafan, Morgannwg, 1934-1950). Enillodd lawer o gadeiriau eisteddfodol gyda'i farddoniaeth. Sally Jones ('Gwynferch') oedd ei ferch. Bu farw 28 Ebrill 1958. Yr oedd yn awdur Cerddi Ieuengtid (Merthyr Tudful, 1902), Y Dafnau Gwlith (Merthyr Tudful, [c. 1905]), Dilyn Llwybrau'r Iesu (Aberdâr, [1931]), alawgan gyda cherddoriaeth gan ei frawd David Jones, Isaac Lewis: y crwydryn digrif, 2 gyfrol (Merthyr Tudful, 1901-1904) a Tannau'r Wawr: i blant a phob oed (Aberdâr, 1937).

Heb deitl

Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion pwyllgor eisteddfod cymdeithasau cystadleuol capeli Bryn'rodyn, Bwlan, Tynlon, Glanrhyd a Saron.

Heb deitl

Mae Angharad Tomos wedi ysgrifennu llyfrau llwyddiannus ar gyfer oedolion a phlant. Y gyfrol gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Rwy'n gweld yr haul, cyfrol fuddugol, medal lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1981. Ers hynny cyhoeddodd bedair nofel arall ar gyfer oedolion, cyfres Rala Rwdins a Guto Col Tar ar gyfer plant bychain a nofel Sothach a Sglyfath ar gyfer plant ychydig yn hŷn, yn ogystal â chyfrolau unigol eraill.

Heb deitl

Bu Angharad Tomos yn ysgrifennu colofn i Y Faner, yn olygydd Tafod y Ddraig ac yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg rhwng 1979 a 1983.

Heb deitl

Treuliodd Angharad Tomos gyfnod yn awdur preswyl yn ysgolion cynradd Bro Dysynni yn ystod gwanwyn 1993.

Union of Welsh Publishers and Booksellers.

  • Corporate body

Sefydlwyd Undeb Cyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr Cymreig (Union of Welsh Publishers and Booksellers) fel cymdeithas masnachu. Un o'i amcanion oedd lobïo am gefnogaeth y llywodraeth i wrthweithio anawsterau economaidd a wynebai cyhoeddi yn y Gymraeg yn sgil rhediadau argraffu byr. Yn 1951, cyflwynodd femorandwm ar y pwnc i Gyngor Cymru a Mynwy, a arweiniodd at sefydlu Pwyllgor Cyhoeddi Llyfrau Cymraeg a chyfundrefn o grantiau i gyhoeddwyr. Parhaodd i weithredu hyd yr 1980au, gan ddefnyddio'r teitl Saesneg, Union of Welsh Publishers and Booksellers.

Owen, Ellis, 1789-1868.

  • Person

Yr oedd Ellis Owen (1789-1868), Cefnymeysydd, Ynyscynhaearn, Eifionydd, sir Gaernarfon, yn ffermwr, hynafiaethydd a bardd.

Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981

  • Person

Roedd David Myrddin Lloyd (1909-1981) yn ysgolhaig, beirniad llenyddol a golygydd. Cafodd ei eni yn Fforest-fach, Morgannwg, a derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgolion Abertawe a Dulyn. Yn llyfrgellydd o ran ei alwedigaeth, bu'n Geidwad Llyfrau Printiedig Llyfrgell Genedlaethol yr Alban rhwng 1953 a 1974. Ef oedd awdur Beirniadaeth lenyddol (1962), ysgrif ar Emrys ap Iwan yn y gyfres Writers of Wales (1974), a Rhai agweddau ar ddysg y Gogynfeirdd 91977). Bu'n olygydd gweithiau yn cynnwys Erthyglau Emrys ap Iwan (3 cyfrol 1937, 1939, 1940), A book of Wales (1953), A reader's guide to Scotland (1968), ac O erddi eraill (1981), blodeugerdd o gerddi mewn deunaw iaith a gyfieithwyd i'r Gymraeg.

Williams, J. E. Caerwyn (John Ellis Caerwyn)

  • n 80149567
  • Person
  • 1912-1999

Roedd yr Athro J. E. Caerwyn Williams (1912-1999) yn un o brif ysgolheigion Cymraeg a Cheltaidd yr ugeinfed ganrif.

Fe'i ganwyd yng Ngwauncaegurwen, Morgannwg, 17 Ionawr 1912, yr hynaf o dri phlentyn John R. a Maria Williams. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Ystalyfera, Coleg y Brifysgol, Bangor, Coleg y Brifysgol a Choleg y Drindod, Dulyn, a Cholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala. Ymunodd â staff Adran y Gymraeg, Bangor, yn 1945, a'r flwyddyn ganlynol fe'i priodwyd â Gwen Watkins o Abertridwr. Fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg ym Mangor yn 1953. Yn 1965 symudodd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i fod yn Athro cyntaf yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Cymru. Cafodd radd D.Litt.Celt.Er Anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1967 a Phrifysgol Cymru yn 1983, a'i ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1978 ac yn Aelod Mygedol o Academi Frenhinol Iwerddon yn 1989. Fe'i etholwyd yn Llywydd yr Academi Gymreig yn 1988. Ar ôl ymddeol yn 1979 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Arhosodd yn y swydd honno tan 1985. Bu farw 8 Mehefin 1999.

Yr oedd yn awdurdod ar y gwareiddiad Celtaidd ac ysgrifennodd yn helaeth am draddodiadau llenyddol Cymru ac Iwerddon. Ymhlith ei brif gyfraniadau fel ysgolhaig Cymraeg mae ei astudiaethau ar y Gogynfeirdd a llenyddiaeth grefyddol yr Oesoedd Canol, gan gynnwys Beirdd y Tywysogion (1973), Canu Crefyddol y Gogynfeirdd (1977) a The Poets of the Welsh Princes (1978). Ysgrifennodd hefyd ar lenyddiaeth mwy diweddar Cymru, gan gynnwys ei astudiaethau o waith Edward Jones, Maes-y-Plwm, geiriadurwyr Cymraeg cyfnod y Dadeni, John Morris-Jones a'i gylch, ac amryw o'r prif lenorion cyfoes, megis Syr T. H. Parry-Williams, Waldo Williams a Saunders Lewis. Fel ysgolhaig Gwyddeleg ei brif gyfraniadau oedd Traddodiad Llenyddol Iwerddon (1958), Y Storïwr Gwyddeleg a'i Chwedlau (1972) a The Court Poet in Medieval Ireland (1972). Roedd yn gyd-awdur The Irish Literary Tradition (1992). Cyhoeddodd gyfieithiadau o storïau Gwyddeleg a Llydaweg, ynghyd ag astudiaethau ieithyddol ar yr ieithoedd hyn a'r Gymraeg. Yn ogystal â golygu cyfrolau fel Llên a Llafar Môn (1963), Llên Doe a Heddiw (1964) a Literature in Celtic Countries (1971), bu'n olygydd Y Traethodydd ac Ysgifau Beirniadol o 1965 ymlaen, Studia Celtica o 1966 a chyfres Llên y Llenor o 1983. Bu'n olygydd ymgynghorol Geiriadur Prifysgol Cymru er 1968, ac yn olygydd Llyfryddiaeth yr Iaith Gymraeg (1988) a Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (1994).

Stoddart, John, 1924-2001

  • Person

Roedd John Stoddart (1924-2001) yn gerddor a chyfieithydd adnabyddus. Fe'i magwyd yn Llansanffraid Glan Conwy, ac wedi treulio cyfnod gyda'r Catrawd Tanciau yn ystod y Rhyfel aeth i ddilyn cwrs dysgu yn y Coleg Normal, Bangor, cyn treulio rhai blynyddoedd yn dysgu mewn ysgolion yng ngogledd Cymru. Cafodd gryn lwyddiant wrth gystadlu ar y canu mewn eisteddfodau pan oedd yn ifanc, a bu galw amdano fel unawdydd ledled Cymru. Enillodd ysgoloriaeth ym 1955 i astudio yn yr Ysgol Opera Genedlaethol yn Llundain a daeth i amlygrwydd fel unawdydd tenor gydag amryw o gwmnïau opera, yn eu plith cwmnïau Glyndebourne, Sadlers Wells, D'Oyly Carte a Covent Garden.

Bu'r teulu'n byw yn Llundain am flynyddoedd, ond yn dilyn ei ymddeoliad symudodd John Stoddart a'i wraig Myfi yn ôl i Abergele. Bu'n hyfforddi cantorion ifanc ac roedd yn wyneb cyfarwydd fel beirniad mewn eisteddfodau a gwyliau eraill. Roedd yn ymgynghorydd lleisiol, yn gyfieithydd toreithiog o ganeuon, ac yn olygydd cyfieithiadau eraill, y cyfan ar gyfer cystadleuthau cerddorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n aelod o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol a chafodd ei urddo i'r wisg wen yn Eisteddfod Casnewydd ym 1988.

Mae'n debyg mai drwy ddysgu amryw ieithoedd fel canwr proffesiynol y magodd John Stoddart ddiddordeb mewn cyfieithu. Roedd yn rhugl mewn nifer o ieithoedd a datblygodd hoffter arbennig am yr Wyddeleg a'r Aeleg. Cyhoeddwyd sawl cyfrol o'i gyfieithiadau o farddoniaeth a rhyddiaith Aeleg ac roedd yn cyfrannu i gylchgronau yn yr iaith honno yn ogystal â chyfnodolion Cymreig. Mae'r canlynol ymhlith ei weithiau cyhoeddedig: Cerddi Gaeleg cyfoes: detholiad o farddoniaeth Aeleg a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod 1937-1982, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau yr Academi Gymreig cyf. VI (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru ar ran yr Academi Gymreig, 1986) ac Y meudwy a storïau Gaeleg eraill (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 2000).

Clee, Tegwen, 1901-1965

  • Person

Tegwen Morris, née Clee (1901-1965) oedd un o'r merched cyntaf i ymaelodi â Phlaid Cymru, a daeth yn un o arweinwyr cynnar y blaid. Priododd Wynn Morris.

Nicholas, W. Rhys.

  • Person

Yr oedd William Rhys Nicholas (1914-1996) yn fardd, emynydd a golygydd.

Fe'i ganwyd ar 23 Mehefin 1914 yn fab i William a Sarah Nicholas yn Nhegryn, Llanfyrnach, Sir Benfro. Yr oedd ei dad yn gefnder i'r bardd a'r pregethwr T. E. Nicholas. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, lle bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr, 1941-1942, gan raddio yn y Gymraeg, ac yna dilynodd gwrs BD yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin. Am gyfnod bu'n ysgrifennydd cynorthwyol i'r Parchedig Curig Davies yn Llyfrfa'r Annibynwyr yn Abertawe. Priododd Elizabeth Dilys Evans yn 1946. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yng Nghapel y Bryn, Llanelli, 1947-1952, Horeb a Bwlchygroes, Llandysul, 1952-1965, a Thabernacl, Porth-cawl, 1965-1983.

Bu'n gwasanaethu am dros ddeng mlynedd fel ysgrifennydd i Bwyllgor Golygyddol Y Caniedydd. Bu'n gyd-olygydd Y Genhinen, 1964-1980, yn olygydd Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod Genedlaethol yn y De, 1978-1988, ac yn Dderwydd Gweinyddol a Chymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol. Ysgrifennodd nifer o gerddi i blant ac fe'u defnyddiwyd yn ddarnau gosod yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar sawl achlysur a hefyd ef a fu'n gyfrifol am eiriau emyn Ysgol y Preseli. Yn 1978 urddwyd y Parch. W. Rhys Nicholas yn Gymrodor gan Goleg y Brifysgol, Abertawe. Fe'i anrhydeddwyd yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr am y cyfnod 1982-1983. Bu farw yn ei gartref ym Mhorth-cawl ar 2 Hydref 1996.

Jones, Ieuan Wyn

  • n 97007236
  • Person
  • 1949-

Etholwyd Ieuan Wyn Jones yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn ym Mehefin 1987. Bu'n ymgeisydd yng Ngorllewin Dinbych ym 1979, ac am sedd [Ewropeaidd Gogledd Cymru] ym 1979 ac yna am Sedd Ynys Môn am y tro cyntaf ym 1983. Bu'n Is-gadeirydd Plaid Cymru, 1975-1979, Cadeirydd Plaid Cymru, 1980-1982 a 1990-1992, Aelod o Bwyllgor Dethol Materion Cymreig, 1990-1992 a 1997-1998, a Chwip ei blaid, 1992-1995. Ar 6 Mai 1999 fe'i etholwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel Aelod dros Ynys Môn. Penderfynodd beidio sefyll fel ymgeisydd yn Etholiad Cyffredinol 2001. Daeth yn Arweinydd Plaid Cymru ym mis Awst 2000.

Nantlais, 1874-1959.

  • Person

Yn 1903 teimlwyd yr angen yng Nghapel Bethani, Rhydaman, am gael capel newydd, ond yn dilyn Diwygiad 1904 penderfynwyd bod mwy o angen am gael capel yn Nhir-y-Dail. Adeiladwyd Capel Elim, Tir-y-dail yn 1906 ar gost o £560, ac agorodd y drysau ar Ddydd Nadolig 1906. Yn 1911 penderfynodd nifer o aelodau Capel Bethani i ymuno â Chapel Elim ac erbyn hynny roedd 64 o aelodau yno.

Y Parch W. Nantlais Williams oedd yn gwneud y gwaith bugeilio o'r cychwyn yn 1906, cymerodd ofal yr eglwys yn ffurfiol rhwng 1911-1919, a bu'n cynorthwyo hefyd rhwng 1922-1931 pan nad oedd bugail gan y Capel. Adeiladwyd festri yng nghefn y capel yn fuan ar ol iddo gael ei ffurfio yn eglwys, a phrynwyd y mans yn 1921 am tua £700.

Roedd Capel Elim, Tir-y-dail, yn perthyn i ddosbarth Rhydaman, Henaduriaeth Gogledd Myrddin. Caewyd y capel yn 2002 neu 2003 (ni restrir y capel yn Blwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd 2003). Yn 2003 cafwyd caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer un annedd preswyl gan gynnwys dymchwel y capel presennol yng Nghapel Elim, Tir y Dail, Rhydaman.

James, Evan, 1809-1878

  • n 93106810
  • Person

Evan James, Ieuan ap Iago, (1809-1878), gwehydd wrth ei alwedigaeth, a'i fab James James, Iago ap Ieuan, (1833-1902), o Bontypridd, Morgannwg, y naill ar ôl y llall yn awdur a chyfansoddwr Hen Wlad fy Nhadau, a fabwysiadwyd yn ddiweddarach yn anthem genedlaethol Cymru. Gweithiai James James gyda'i dad a chadwodd dafarndai ym Mhontypridd ac yn Aberpennar ar ol 1873.

Roberts, Selyf.

  • Person

Yr oedd Selyf Roberts (1912-1995) a drigai yn yr Amwythig, Lloegr, yn nofelydd yn ogystal ag awdur storïau byrion. Yr oedd yn briod â Nan Roberts. Enillodd y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1955 am rai o'i ysgrifau. Bu'n garcharor rhyfel yn yr Eidal a'r Almaen, a cheir ei atgofion yn rhai o'i storïau byrion. Cyfieithodd Alice's Adventurers in Wonderland i'r Gymraeg. Yr oedd yn aelod o'r Academi Gymreig a sefydliadau eraill.

Plaid Cymru. Rhanbarth Ceredigion.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925 ac ymladdodd ei hetholiad cyntaf yn 1929. Yn isetholiad Caerfyrddin 1966, daeth Gwynfor Evans yn AS cyntaf Plaid Cymru. Yn 1974 enillodd y blaid dwy sedd, ac yna bedair sedd ar ôl etholiad cyffredinol 2001. Trefnir ardaloedd yn bwyllgorau adrannol a elwir yn rhanbarthau, sy'n cyfateb i etholaethau neu ffiniau llywodraeth leol. Yn lleol trefnir y blaid yn ganghennau, ac mae pwyllgorau rhanbarth yn gynwysedig o gynrychiolwyr o'r canghennau.

Canlyniadau 2981 i 3000 o 3024