Showing 3024 results

Authority record

Williams, Siân, 1884-1965

  • Person

Yr oedd Siân Williams (1884-1965) yn wraig i D. J. Williams, Abergwaun.

Ganwyd Jane Evans yn Cwmbach, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, ar 4 Awst 1884, yn ferch i'r Parchedig Dan Evans a'i wraig Mary. Fe'i bedyddiwyd gan Michael D. Jones a symudodd y teulu i Aberafan pan oedd hi'n chwech mlwydd oed. Bu'n gweithio fel athrawes yn Nhredegar a Llanwrtyd ac yna fel athrawes deithiol yng Nghaerdydd. Yna fe'i penodwyd yn brifathrawes ar ysgol newydd Beulah ger Castellnewydd Emlyn. Yn Rhagfyr 1925 priododd D. J. Williams. Fe fu'n ysgrifennydd cangen y Peace Pledge Union yn Abergwaun yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bu farw Siân Williams ar 3 Mehefin 1965 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.

Roberts, Gomer Morgan

  • Person

Ganwyd y Parch. Ddr Gomer Morgan Roberts (1904-1993) yn Llandybïe, sir Gaerfyrddin ar 3 Ionawr 1904. Yn dair ar ddeg oed, dechreuodd weithio fel glöwr cyn ennill ysgoloriaeth y WEA i Goleg Fircroft, rhan o Golegau Selly Oak, Birmingham, pan oedd yn bedair ar bymtheg. Aeth ymlaen i Goleg Trefeca yn ddiweddarach. Yn 1930 cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, gan weinidogaethu yng Nghlydach, Cwm Tawe, 1930-1939, Pont-rhyd-y-fen, 1939-1958, ac wedyn yn Llandudoch ger Aberteifi nes iddo ymddeol yn 1968. Symudodd wedyn i Landybïe ger Rhydaman. Yn 1969 cafodd ei ethol yn Llywydd Cyfundeb De Cymru and yn 1973 yn Llywydd y Cynulliad Cyffredinol. Derbyniodd nifer fawr o anrhydeddau gan yr eglwys, ac yn 1982 cyhoeddodd ei gydweithwyr yn y Gymdeithas Hanes gasgliad o ysgrifau er clod iddo dan y teitl Gwanwyn Duw. Mae hwn yn cynnwys llyfryddiaeth lawn o'i weithiau cyhoeddedig niferus. Gwnaeth Gomer M. Roberts gyfraniad pwysig i astudiaeth ar ddiwygiad Methodistaidd y deunawfed ganrif yng Nghymru, yn cynnwys cyhoeddi dwy gyfrol o fywgraffiad William Williams, Pantycelyn. Yn ogystal bu'n gwasanaethu am bron deng mlynedd ar hugain fel golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd ac yn gyfrifol am y gyfres Trevecka Records a gyhoeddwyd gan yr un gymdeithas yn y 1950au a'r 1960au. At ei gilydd, roedd yn awdur tua deugain o lyfrau a nifer enfawr o erthyglau mewn cylchgronau. Bu farw yng Nglanaman ar 15 Mawrth 1993.

Emrys, Dewi, 1881-1952

  • Person

Ganwyd David Emrys James ('Dewi Emrys', 1881-1952), llenor a bardd, yng Ngheinewydd, Ceredigion, ond treuliodd ei blentyndod yn sir Benfro. Gweithiodd fel newyddiadurwr cyn mynd yn fyfyriwr i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nowlais, Bwcle, Pontypridd a Llundain. Dychwelodd at newyddiaduraeth yn 1918 a dilyn ffordd o fyw go fohemaidd yn Llundain cyn ymgartrefu yn Nhalgarreg, Ceredigion, yn 1940. Yn 1926 enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, a'r Gadair yn 1929, 1930, 1943 a 1948. Bu'n golygu colofn farddol yn Y Cymro rhwng 1936 a 1952. Ei gerdd enwocaf yw 'Pwllderi' a ysgrifennodd yn nhafodiaith Gogledd Penfro.

Untitled

Bu i ŵr busnes lleol o'r enw Robert Roberts adael £3000 i dlodion Tanygrisiau yn ei ewyllys, gyda'r llôg i'w rannu yn ôl penderfyniad ymddiriedolwyr yr ardal, oedd yn swyddogion ym Methel.

Untitled

Cychwynwyd ar y gwaith o ysgrifennu Sothach a Sglyfath yn ystod cyfnod o dri mis a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl ym Mharc Glynllifon gan ddechrau ym mis Medi 1991.

Untitled

Er nad yw Angharad Tomos mor adnabyddus fel awdur sgriptiau ag yw hi fel awdur nofelau a llyfrau darllen i blant, bu'n ysgrifennu sgriptiau'n gyson ers diwedd y 1980au. Yn ystod 1991 fe'i cyflogwyd am flwyddyn fel awdur preswyl yn gweithio i gwmnïau theatr Hwyl a Fflag, y Frân Wen ac Arad Goch.

Eames, Marion

  • nr 90014349
  • Person
  • 1921-2007

Ganwyd y nofelydd Marion Eames ym Mhenbedw, swydd Gaer, ar 5 Chwefror 1921, ond fe'i magwyd yn Nolgellau, Gwynedd. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Yn bymtheg oed ymadawodd â'r ysgol i weithio yn Llyfrgell y Sir, Dolgellau, ac yna yn Llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Gweithiodd hefyd am rai blynyddoedd fel trefnydd Plaid Cymru ac yn olygydd ar bapur newydd wythnosol 'Y Dydd' yn Nolgellau.

Ymadawodd â'r papur yn 1954 i symud i Lundain i astudio'r piano a'r delyn yn Ysgol Gerdd y Guildhall. Yno priododd ei gŵr, y newyddiadurwr Griffith Williams, yn 1955. Gweithiodd i gylchgrawn Sefydliad y Merched, 'Home and Country', am gyfnod cyn penderfynu dychwelyd i Gymru yn 1959 i dderbyn swydd fel cynhyrchydd radio i'r BBC yng Nghaerdydd. Yn ogystal i'w gwaith ar y radio, ysgrifennodd rai sgriptiau i Pobol y Cwm yn y dyddiau cynnar. Ymddeolodd o'r BBC yn 1980.

Caiff Marion Eames ei hystyried yn un o brif nofelwyr hanes Cymru. Daeth i amlygrwydd yn dilyn cyhoeddi ei nofelau cyntaf, Y Stafell Ddirgel (1969) ac Y Rhandir Mwyn (1972), y ddwy yn olrhain hanes y Crynwyr yn Nolgellau ac ym Mhennsylfania. Wedi'r llwyddiant a brofodd yn sgil y gweithiau yma, aeth ymlaen i ysgrifennu sawl nofel ar gyfer oedolion ac i blant, gan gynnwys I Hela Cnau (1978) ac Y Gaeaf Sydd Unig (1982), a'r gyfres o storïau byrion Sionyn a Siarli. Bu farw Marion Eames yn Nolgellau ar 3 Ebrill 2007.

BBC Cymru Wales

  • nr 95042808
  • Corporate body
  • 1923-

Sefydlwyd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (sydd yn fwy adnabyddus fel y BBC), gyda'i chanolfan yn Broadcasting House, Portland Square, Llundain, trwy Siarter Frenhinol yn 1927, gydag awdurdod i ddarparu gwybodaeth, i addysgu ac i ddiddanu ei chynulleidfa ar draws nifer fawr o feysydd yn cynnwys materion cyfoes, y celfyddydau a diwylliant, addysg, crefydd a chwaraeon. Derbyniodd ei rhagflaenydd, y Cwmni Darlledu Prydeinig, ei drwydded i ddarlledu yn 1923, a dechreuodd y gwasanaeth darlledu cyhoeddus yng Nghymru yr un flwyddyn pan agorwyd gorsaf radio yng Nghaerdydd, gan ddarparu rhaglenni yn y Gymraeg a Saesneg. Derbyniodd Rhanbarth Cymru y BBC ei thonfedd arbennig ei hun ar gyfer darllediadau sain ym 1937, a rhoddwyd tonfedd arall ar wahân iddi ym 1964 ar gyfer darllediadau teledol; adnabyddir y Rhanbarth Cymreig yn BBC Wales ers hynny. Cafodd rhaglenni Cymraeg eu darlledu gyntaf ar y teledu yn 1953, a darlledir darpariaeth ddyddiol ers 1957; mae'r sianel Gymraeg yn cael ei hadnabod fel BBC Cymru. Bu'r gorsafoedd radio Saesneg a Chymraeg (Radio Wales a Radio Cymru) yn unedau ar wahân ers 1977. Erbyn hyn, adnabyddir y BBC yng Nghymru yn ei chyfanrwydd - yn cynnwys BBC Wales, BBC Cymru, Radio Wales a Radio Cymru - fel BBC Cymru Wales hefyd.

Williams, Stephen Joseph

  • Person

Ganwyd Stephen Joseph Williams yn 1896 ger Ystradgynlais, Brycheiniog. Aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd ac fe raddiodd yn y Gymraeg yn 1921. Aeth yn athro am gyfnod wedi graddio yn Aberaeron a Llandeilo. Yna, yn 1927 cafodd ei benodi yn Ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Cyhoeddodd nifer o weithiau gan gynnwys Ffordd y Brawd Odrig, 1929, ac Ystorya De Carolo Magno, 1930. Yn ogystal â hyn, fe olygodd nifer o weithiau, megis Llyfr Blegywryd gyda J. Enoch Powell, a gweithiau Robert ap Gwilym Ddu (Robert Williams). Roedd hefyd yn ramadegydd, ac fe gyhoeddodd Beginner's Welsh (1934), Elfennau Gramadeg Cymraeg (1959), ac A Welsh Grammar (1980). Bu farw yn 1992.

Williams, Rhydwen

  • Person

Ganwyd Rhydwen Williams (1916-1997), bardd a nofelydd, yn Y Pentre, Cwm Rhondda, ond symudodd y teulu i Gaer pan oedd yn bymtheg mlwydd oed. Aeth yn fyfyriwr i brifysgolion Abertawe a Bangor cyn cymryd safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd pryd y gweithiodd fel rhan o uned ambiwlans. Dychwelodd i'r Rhondda yn ddiweddarach yn weinidog y Bedyddwyr yn Ynys-hir lle daeth yn gyfaill i J. Kitchener Davies ac yn aelod o Gylch Cadwgan. Yn nes ymlaen bu'n weinidog yn Resolfen a Phont-lliw ac wedi hynny aeth i fyd teledu annibynnol. Yn y pen draw llwyddodd i ennill bywoliaeth fel actor ac awdur. Cyhoeddodd wyth cyfrol o'i gerddi a nifer o nofelau cymeradwy iawn. Bu'n gwasanaethu hefyd fel golygydd y cylchgrawn Barn o 1981 hyd 1986.

Jones, T. Llew (Thomas Llew)

  • n 82120744
  • Person
  • 1915-2009

Ganwyd Thomas Llewelyn Jones (1915-2009), bardd ac awdur llyfrau plant, ym Mhentre-cwrt, sir Gaerfyrddin, ar 11 Hydref 1915. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Llandysul a bu'n gwasanaethu yn yr Awyrlu a'r Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn hyfforddi'n athro. Bu'n brifathro ar ysgolion cynradd Tregroes a Choed-y-bryn, sir Aberteifi. Ym 1940 priododd â Margaret Jones, un o deulu'r Cilie, a thrwy hynny daeth dan ddylanwad beirdd megis Isfoel ac Alun Cilie. Ennillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy, 1958, ac yng Nghaernarfon, 1959. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi, gan gynnwys Sŵn y Malu (Llandysul, 1967) and Canu'n Iach! (Llandysul, 1987). Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau poblogaidd i blant, yn eu mysg Y Ffordd Beryglus (Llandysul, 1963), Ymysg Lladron (Llandysul, 1965) and Dial o'r Diwedd (Llandysul, 1968), Barti Ddu (Llandybïe, 1973), Un Noson Dywyll (Llandysul, 1973), Tân ar y Comin (Llandysul, 1975), Dirgelwch yr Ogof (Llandysul, 1977) a Lleuad yn Olau (Llandysul, 1989). Roedd gan T. Llew Jones ddiddordeb mawr mewn gwyddbwyll. Roedd yn aelod o Undeb Gwyddbwyll Cymru, a daeth yn Is-Lywydd ar y mudiad. Rhannodd y diddordeb yma gyda'i fab iau, Iolo Ceredig Jones (g. 1947), a bu'r ddau yn cystadlu dros Gymru yn yr Olympiad Gwyddbwyll. Ei fab hynaf yw Emyr Llewelyn (g. 1941), ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg a garcharwyd ym 1963 yn sgil ffrwydriad yng Nghwm Tryweryn, Bala. Bu farw T. Llew Jones ym Mhontgarreg, Ceredigion, ar 9 Ionawr 2009.

Gwynn, Harri, d. 1985.

  • Person

Yr oedd Harri Gwynn (1913-1985) yn fardd a darlledwr. Fe'i ganwyd yn Wood Green, Llundain, 14 Chwefror 1913, yn fab i Hugh ac Elizabeth Jones. Symudodd y teulu i Garth Celyn, Penrhyndeudraeth, pan oedd Harri Gwynn yn bedair oed, yn dilyn marwolaeth ei dad. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bermo a Choleg y Brifysgol, Bangor. Enillodd radd mewn hanes yn 1935. Rhwng 1935 a 1936 ef oedd Llywydd Cyngor y Myfyrwyr ac enillodd y goron ddwywaith yn Eisteddfod Prifysgol Bangor, ac unwaith yn yr Eisteddfod Rhyngolegol yn Aberystwyth. Yn 1938 cyflwynodd ei draethawd ymchwil MA ar y Crynwr John Kelsall (1683-1743), 'John Kelsall: A study in Religious and Economic History' wedi iddo ennill Ysgoloriaeth Lloyd George. Bu'n athro hanes yn Y Fflint am flwyddyn ac wedyn yn Ysgol Friars, Bangor. Priododd y gwyddonydd Dr Eirwen Gwynn (née St. John Williams) ar Ddydd Calan 1942 a ganwyd eu mab Dr Iolo ap Gwynn tra roeddent yn byw yn Llundain. Bu'n was sifil yn Warwick ac yn Llundain gan gyfrannu at fywyd diwylliannol y brifddinas drwy gynorthwyo i sefydlu Cymdeithas y Ford Gron a chwmni drama'r Ddraig Goch gyda'i wraig Eirwen. Bu'n olygydd papur Cymry Llundain Y Ddinas o 1943 hyd 1950.

Ar ôl byw yn Lloegr am wyth mlynedd penderfynodd ddychwelyd i Gymru yn 1950 i ffermio yn Nhyddyn Cwcallt, Rhoslan, Eifionydd, gan aros yno am ddeuddeng mlynedd. Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955. Yn 1970 symudodd Harri Gwynn o Fangor i Dyddyn Rhuddallt yn Llanrug. Yr oedd yn un o ohebwyr cyntaf y rhaglen 'Heddiw' a dechreuodd weithio ar y rhaglen yn 1962. Bu'n gweithio hefyd fel cynhyrchydd radio ym Mangor. Ymddeolodd o'r BBC yn 1979.

Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi Barddoniaeth Harri Gwynn (1955) ac Yng Nghoedwigoedd y Sêr (1975), a chasgliad o ysgrifau, Y Fuwch a'i Chynffon (1954). Yn 1994 golygodd Dr Eirwen Gwynn gyfrol o ysgrifau'i gŵr Rhwng godro a gwely a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel erthyglau yn Y Cymro rhwng 1952 a 1959. Bu Harri Gwynn yn gystadleuydd brwd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ymgeisiodd am y goron chwech o weithiau rhwng 1948 a 1954. Ef a luniodd 'Y Creadur' sef pryddest anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952 y gwrthodwyd ei gwobrwyo gan yr Athro W. J. Gruffydd a'i gyd-feirniaid. Fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddarach yn Y Cymro.

Bu Harri Gwynn farw ar 24 Ebrill 1985.

Tomos, Angharad, 1958-

  • Person

Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd iaith ac awdur toreithiog sydd wedi ysgrifennu cyfrolau ar gyfer oedolion a phlant, sgriptiau ar gyfer dramâu llwyfan ac erthyglau ar gyfer nifer o gyfnodolion ers diwedd y 1970au.

Fe'i ganwyd ym 1958 a'i magu, yn un o bump chwaer, yn Llanwnda ger Caernarfon. Ymddiddorodd mewn llenydda yn fuan iawn yn ei bywyd gan ennill medal lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym 1981 a 1982 tra yn yr un cyfnod yn ymroi yn ddigyfaddawd i weithgareddau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan dreulio cyfnod yn gweithio iddynt a chan wynebu nifer o achosion llys, dirwyon a charchar. Treuliodd flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ond ymadawodd i weithio i Gymdeithas yr Iaith cyn ailgydio yn ei haddysg uwch a graddio o Brifysgol Cymru, Bangor. Bu am gyfnod yn ddi-waith pryd y mynychodd gyrsiau celf. Gwelir ei gwaith celf a'i gwaith fel awdur yng nghyfrolau Rala Rwdins, cyfres bwysig a phoblogaidd i blant ieuainc yn cynnwys cymeriadau a drosglwyddwyd yn llwyddiannus i'r llwyfan ac i'r sgrîn. Aeth ymlaen i ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ym 1991 a 1997 a Gwobr Tir na n-Óg ddwywaith am ei llyfrau i blant. Enillodd sawl ysgoloriaeth gan Gyngor y Celfyddydau i dreulio cyfnod yn ysgrifennu ac ar gyfer cyfnodau yn awdur preswyl. Dros y blynyddoedd datblygodd yn athrawes a darlithydd poblogaidd gan ymweld ag ysgolion a chymdeithasau ledled Cymru. Bu'n deithwraig frwd erioed, ond ers cyfarfod â'i gŵr, Ben Gregory, a phriodi ym 1999, datblygodd ei diddordeb mewn teithio ac mewn gwleidyddiaeth fyd-eang, yn arbennig y sefyllfa yn Nicaragua. Mae'r ddau bellach yn byw ym Mhen-y-groes, Gwynedd.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

  • n 50032994
  • Person

Cylchgrawn Chwarterol Cymraeg a gyhoeddai weithiau llenyddol o safon uchel oedd Y Llenor, 1922-1955. W. J. Gruffydd oedd golygydd y cylchgrawn ar hyd y cyfnod y cyhoeddwyd ef, ond yn 1946 penodwyd T. J. Morgan yn gyd-olygydd â W. J. Gruffydd. Cyfrannodd Y Llenor yn helaeth i lenyddiaeth ac ysgolheictod Cymraeg y dydd, a bu yn llwyfan i nifer o awduron, beirdd ac ysgolheigion.

Bowyer, Gwilym, 1906-1965

  • Person

Yr oedd Gwilym Bowyer (1906-1965) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn brifathro coleg. Yr oedd yn frodor o Bonciau. Rhosllannerchrugog a chafodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Cyngor, Ponciau. Gweithiodd yn gyntaf mewn siop groser lleol cyn mynd i Goleg Bala-Bangor yn 1928 lle graddiodd mewn athroniaeth yn 1932 a derbyn gradd BD yn 1938. Cafodd ei ordeinio yn 1935 a bu'n weinidog yn Llundain a Bangor cyn cymryd swydd Prifathro Coleg Bala-Bangor yn 1946. Bu yma tan ei farwolaeth annhymig yn 1965. Cyhoeddodd dau bamffled a thua phump ar hugain o erthyglau, pregethau ac adolygiadau. Yr oedd yn bregethwr a darlledwr nodedig, yn heddychwr ac yn ddadleuwr cryf dros addysg Gymraeg.

Dafis, Cynog, 1938-

  • no2006001317
  • Person
  • 1938-

Mae Cynog Glyndwr Dafis (g. 1939) yn aelod gweithgar o Blaid Cymru ers 1955. Am 32 mlynedd bu'n athro ysgolion cyfun ym Mhontardawe, Castellnewydd Emlyn, Aberaeron a Llandysul. Roedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1965-1966. Roedd yn AS Plaid Cymru dros Geredigion,1992-2000 (ar y cychwyn cafodd ei ethol dros Geredigion a Gogledd Penfro ar raglen Plaid Cymru/ y Blaid Werdd), ac yn AC (Aelod y Cynulliad) yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999-2003. Bu'n aelod o Bwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y Cynulliad, 2002-2003. Mae'n awdur nifer o erthyglau a phamffledi ar fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru, yn cynnwys Migration into Wales: a positive response (1988) ac A sustainable future for Wales (1988) ar y cyd â Victor Anderson.

Untitled

Ganwyd Bobi Jones (Robert Maynard Jones (g. 1929)) yng Nghaerdydd i rieni di-Gymraeg, ac ar ôl iddo ddysgu Cymraeg yn yr ysgol, enillodd radd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy, Caerdydd yn 1949. Bu'n athro yn Llanidloes, sir Drefaldwyn, a Llangefni, sir Fôn cyn dod yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac wedyn yn Ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Yn 1966, ymunodd a staff Adran Gymraeg y coleg hwnnw, a bu'n Athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg o 1980 tan ei ymddeoliad yn 1989. Dros y blynyddoedd mae Bobi Jones wedi bod y mwyaf toreithiog o awduron Cymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn cynhyrchu llif o farddoniaeth, straeon byrion, nofelau a beirniadaeth lenyddol. Bu yr un mor doreithiog fel athro, yn cynhyrchu llyfrau i blant, cyhoeddiadau ysgolheigaidd ar farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg a sawl cyfrol ar gyfer myfyrwyr y Gymraeg. Nid oes arwydd ar hyn o bryd y bydd y llif toreithiog hwn yn peidio.

Phillips, Llywelyn, d. 1981.

  • Person

Yr oedd Llywelyn Phillips (1914-1981) yn ohebydd amaethyddol, golygydd a llenor. Parhaodd ei ddiddordeb mewn amaethyddiaeth, yn enwedig ym Mridfa Planhigion Cymru, ac ym mywyd, llenyddiaeth a diwylliant Cymru ar hyd ei oes.

Bryfdir, 1867-1947

  • no2007032190
  • Person

Roedd 'Bryfdir', Humphrey Jones (1867-1947), yn chwarelwr a bardd. Ganwyd ef yng Nghwm Croesor, Meirionnydd, ar 13 Rhagfyr 1867. Ar ôl gadael ysgol yn 12, bu'n chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog lle treuliodd weddill ei fywyd. Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth a chystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn ifanc, gan ymuno â Gorsedd y Beirdd yn 1890 ac ennill dim llai na 64 cadair farddol ac 8 coron yn ystod ei fywyd. Roedd yn enwog fel arweinydd eisteddfodau. Cyfrannodd at gylchgronau Y Genhinen a Cymru yn ogystal â chyhoeddi dwy gyfrol o'i farddoniaeth: Telynau'r Wawr (Blaenau Ffestiniog, 1899) a Bro Fy Mebyd a Chaniadau Eraill (Bala, 1929) Roedd ganddo 5 o blant, a bu farw 22 Ionawr 1947.

Results 2961 to 2980 of 3024