Dangos 3024 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid (Pontrhydfendigaid, Wales)

  • Corporate body

Agorwyd Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid, Pontrhydfendigaid, sir Aberteifi, ym Mai 1879. Yn 1978, sefydlwyd Pwyllgor Dathlu Canmlwyddiant i drefnu dathliadau'r ysgol y flwyddyn ganlynol, gan arwain at seremoni canmlwyddiant a chyhoeddi llyfr Dafydd Jones ac W. J. Gruffydd, 'Rhwng y Bont a Ffair Rhos (Hanes Ysgol Pontrhydfendigaid 1879-1979)'(Llandysul,1979).

Ysgwyddgwyn, Deri (Capel)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel yn 1808 ac fe'i hail-adeiladwyd yn 1866.

Davies, Alun Talfan, 1913-2000.

  • Person

Yr oedd Syr Alun Talfan Davies (1913-2000) yn fargyfreithiwr, barnwr a chyhoeddwr. Fe'i ganwyd yng Ngorseinon, Abertawe, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Bro Gŵyr, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt. Fe'i galwyd at y Bar yn Gray's Inn yn 1939 ac i'r Fainc yn 1969 ac enillodd enw iddo'i hun fel arbenigwr mewn achosion diwydiannol. Safodd fel ymgeisydd mewn sawl etholiad, fel ymgeisydd Annibynnol yn isetholiad Prifysgol Cymru yn 1943, ac fel Rhyddfrydwr yn sir Gaerfyrddin, 1959 a 1964, a Dinbych yn 1966. Bu'n Gofiadur Merthyr Tudful, 1963-1968, Abertawe,1968-1969, Caerdydd, 1969-1971, a Llys y Goron,1972-1985, ac yr oedd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Sesiwn Chwarter Sir Aberteifi, 1963-1971. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1977-1980, ac yr oedd yn aelod o Lys Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Yr oedd yn gyfarwyddwr cwmni HTV, 1967-1983, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Cronfa Trychineb Aberfan, 1969-1988, a chadeirydd Banc Brenhinol Cymru o1991. Gyda'i frawd hyn Aneirin (1909-1980) sefydlodd Gwasg y Dryw, Llandybïe,a chyfrannodd yn sylweddol at waith y wasg honno, gan gyhoeddi cyfrolau llenyddol pwysig yn y Gymraeg. Wedi hynny daeth ei fab Christopher yn berchennog ar y cwmni. Priododd Eiluned Christopher Williams yn 1942 a chawsant un mab a thair merch. Fe'i hurddwyd yn farchog yn Ionawr 1976. Bu farw ym Mhenarth, Bro Morgannwg, ar 11Tachwedd 2000.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970

  • n 00023273
  • Person

Yr oedd D. J. Williams (1885-1970), Abergwaun, yn llenor a chenedlaetholwr.

Ganwyd David John Williams ar 26 Mehefin 1885 yn ffermdy Penrhiw Fawr ym mhlwyf Llansawel, yn fab i John a Sarah Williams (née Morgans), ac yn 1891 symudodd y teulu i Abernant, Rhydcymerau.

Mynychodd Ysgol Gynradd Rhydcymerau, 1891-1898. Rhwng 1902 a 1906 bu D. J. Williams yn gweithio fel glöwr yn Ferndale, Cwm Rhondda; Y Betws, Rhydaman; a Blaendulais. Cyn hynny bu'n gweithio ar y tir. Yn 1906 bu'n ddisgybl yn ysgol ragbaratoawl Mr Stephens, Llanybydder, ac yn 1908 fe'i penodwyd yn athro heb drwydded yn Ysgol Llandrillo yn Sir Feirionnydd. Mynychodd Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, o dan Joseph Harry, 1910-1911, ac yn 1911 aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth gan raddio mewn Cymraeg yn 1914, a Saesneg yn 1915. Bu'n allweddol mewn sefydlu cylchgrawn Y Wawr, cylchgrawn Cymraeg cyntaf Prifysgol Cymru ac fe'i penodwyd yn olygydd cyntaf. Enillodd Ysgoloriaeth Meyricke i Goleg yr Iesu, Rhydychen, am ysgrifennu traethawd ar 'The nature of literary creation' gan raddio mewn Saesneg yn 1918. Bu'n dysgu Cymraeg yn Ysgol Lewis Pengam am dri mis yn 1918. Yn 1919 fe'i penodwyd yn athro Saesneg ac Ymarfer Corff yn Ysgol Ramadeg Abergwaun ac yn athro Cymraeg yno o 1937 nes iddo ymddeol yn 1945.

Priododd Jane (Siân) Evans, a oedd yn chwaer i Wil Ifan, ar 24 Rhagfyr 1925, a symud i 49 High Street (a fu gynt yn dafarn y Bristol Trader), Abergwaun, a dyfodd yn fan cyfarfod i ffrindiau lu. Bu'n feirniad cyson ar gystadlaethau rhyddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1951 yr oedd yn un o feirniaid y fedal ryddiaith. Lluniodd ei feirniadaeth gyntaf tra yng ngharchar Wormwood Scrubs ar gyfer cystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937. Yr oedd yn un o'r tri a fu'n gyfrifol am losgi'r Ysgol Fomio yn Llŷn ac fe'i carcharwyd am naw mis fel canlyniad. Ym mlynyddoedd olaf ei ddyddiau bu'n gefnogwr i ymdrechion Cymdeithas yr Iaith dros hawliau'r Gymraeg.

Bu'n ymwneud â'r Blaid Lafur cyn ymuno â'r Blaid Genedlaethol Gymreig pan ffurfiwyd hi yn 1925. Yn Ysgol Haf Plaid Cymru a gynhaliwyd yn Abergwaun yn 1964 cafwyd cyfarfod i anrhydeddu D. J. Williams a Siân ei wraig, a darllenodd Waldo Williams ei gywydd mawl iddo.

Bu D. J. Williams yn Ysgrifennydd Cymrodorion Abergwaun, 1920-1928, ac yn Llywydd, 1936-1937, gan gynhyrchu sawl drama. Cafodd ei benodi yn Llywydd Undeb Prifysgolion Cymru yn 1935, ac yn 1957 cyflwynwyd gradd DLitt iddo er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Yn 1965 cafodd ei ethol yn Llywydd yr Academi Gymreig ac yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo wedi'i golygu gan ei gyfaill J. Gwyn Griffiths.

Bu farw D. J. Williams wedi iddo roi anerchiad gwladgarol mewn cyngerdd cysegredig yng Nghapel Rhydcymerau ar 4 Ionawr 1970, ac yno y cynhaliwyd yr angladd. Ar 17 Medi 1977 dadorchuddiwyd cofeb iddo yn Abernant, Rhydcymerau, gan Cassie Davies a threfnwyd gweithgareddau i'w goffáu, gan gynnwys pererindod o Gaerfyrddin i Rydcymerau gan ieuenctid y sir.

Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni.

  • Corporate body

Ffurfiwyd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni ym mis Tachwedd 1833, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg ac ymdeimlad gwladgarol yn Y Fenni a Sir Fynwy. Yr oedd nifer o gymdeithasau tebyg ar hyd a lled Cymru yn y cyfnod hwn, yn ogystal ag yn Llundain. Lerpwl, Manceinion a dinasoedd eraill Lloegr, ond yr oedd Cymdeithas Cymreigyddion y Fenni yn tra rhagori arnynt i gyd yn ei chynnyrch llenyddol a'i henwogrwydd byd eang. Ei phrif ysgogwyr oedd yr hynafiaethwyr Thomas Bevan ('Caradawc y Fenni', 1802-82), y Parch. Thomas Price ('Carnhuanawc', 1787-1848) ac Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer ('Gwenynen Gwent', 1802-96), ac ymhlith yr aelodau yr oedd enwogion megis y gerddores Maria Jane Williams, Aberpergwm (?1795-1873), Arglwyddes Charlotte Guest (1812-95) yr awdures, ac uchelwyr blaenllaw lleol, yn eu plith Syr Charles Morgan, Arglwydd Tredegar (1760-1852), Benjamin Hall, Arglwydd Llanofer (1802-67) a Syr Josiah John Guest (1785-1852). Amcanion penodedig y Gymdeithas oedd casglu llyfrau Cymraeg a dyfarnu gwobrwyon am areithiau, traethodau ysgrifenedig yn y Gymraeg ar themâu amaethyddol, barddonol, crefyddol, gwyddonol, hanesyddol a hynafiaethol, yn ogystal ag ar gerddoriaeth a chelfyddydau cain. Pwysleisiwyd y dylai pob ymddiddan fod yn y Gymraeg, a bu'r Gymdeithas yn gwneud cais am ddefnydd ehangach o'r iaith mewn ysgolion, prifysgolion, yn y llysoedd a'r Eglwys, er bod ei chyfansoddiad yn gofyn i aelodau beidio ag ymhél â phethau a allai arwain at anfoesoldeb, annheyrngarwch i'r wladwriaeth, neu unrhyw ddadl grefyddol neu genedlaethol. Canolbwynt y rhan fwyaf o waith Cymreigyddion y Fenni oedd yr eisteddfodau (a alwyd yn gylchwyliau), a ddechreuodd ar raddfa fechan yn 1834. Profodd y digwyddiadau blynyddol hyn yn boblogaidd iawn, ac fe'u mynychwyd gan filoedd o bobl o bob dosbarth, gan gynnwys ffigurau amlwg ym mywyd diwylliannol Cymru, academyddion blaenllaw o Lydaw a'r Almaen, a hyd yn oed llysgenhadon o Ewrop a thywysogion o India. Er gwaethaf ei chryfder ymddangosiadol yn y 1830au, yr oedd hadau distryw y Gymdeithas yn ei thwf. Defnyddid mwy a mwy o Saesneg yn y rhan fwyaf o agweddau ar ei gwaith, gan fod y mwyafrif o'i noddwyr, llawer o'r ymwelwyr, a rhai o'i haelodau, yn methu siarad na deall Cymraeg, ac yr oedd hefyd yn anodd dod o hyd i fan cyfarfod parhaol addas ar gyfer y cylchwyliau cynyddol. Ond y broblem fwyaf arwyddocaol oedd y methiant i gwrdd â goblygiadau ariannol. Dibynnai'r Gymdeithas yn drwm ar gefnogaeth hael bonheddwyr lleol a'r diwydiant gwlân lleol (yr hyrwyddwyd ei chynnyrch yn y cylchwyliau), ond fel yr ai'r amser heibio nid oedd yn gallu denu noddwyr sylweddol newydd i gwrdd â chostau cynyddol ei gweithgareddau. O ganlyniad, bu'n rhaid cwtogi ar amlder y cylchwyliau mor gynnar â 1840, a daeth y Gymdeithas i ben yn 1854.

Rees, Mati, 1902-1989

  • Person

Yr oedd Mati Rees (1902-1989), a hanai o Rydaman, sir Gaerfyrddin, yn un o bum plentyn peiriannydd mwyngloddio. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1924. Tra roedd hi'n athrawes yn Ysgol Ramadeg y Sir, Porth, cwblhaodd draethawd MA ar ieithyddiaeth, astudiaeth arloesol a osododd sail i'w diddordeb llwyr mewn dulliau dysgu iaith a barodd ar hyd ei hoes. Arweiniodd y diddordeb hwn at gyhoeddi cyfres o werslyfrau i ysgolion a sgriptiau'r gyfres deledu boblogaidd 'Croeso Christine'. Ar ôl blynyddoedd lawer fel athrawes yn Ysgol Ramadeg Llanelli, cafodd ei hapwyntio'n brif ddarlithydd yn 1966. Chwaraeodd ran flaenllaw ym mywyd diwylliannol a chrefyddol Cymru, ac roedd hi'n hynod o amlwg mewn materion yn ymwneud ag Undeb Bedyddwyr Cymru, Urdd Ieuenctid y Bedyddwyr, yr Orsedd ac UCAC. Yr oedd yn ddarlledwraig cyson, yn golofnydd ac yn awdur toreithiog. Treuliodd flynyddoedd olaf ei bywyd yn Aberystwyth. Bu farw yn 1989.

Canlyniadau 2941 i 2960 o 3024